Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1554 (Cy.152)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

11 Mehefin 2002

Yn dod i rym

9 Gorffennaf 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan weithredu mewn perthynas â Chymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1) ac (1A)(e) a 36 o Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964(1), ar ôl ymgynghori yn unol â'r adran 16(1) honno â chynrychiolwyr buddiannau o'r fath y mae'n ymddangos iddo eu bod yn berthnasol, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1964 p.14; diwygiwyd adran 16 gan Ddeddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraffau 5(1), (2) a (3); gweler adran 38(1) (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1978/272) am ddiffiniad o “the Minister”; trosglwyddwyd swyddogaethau y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau 1964, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (O.S. 1978/272); ac o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, fe drosglwyddwyd y swyddogaethau hyn, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.