Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio Rheoliadau Hadau (Ffioedd) 1985 (fel y'u diwygiwyd). Mae angen y diwygiadau o ganlyniad i Reoliadau Hadau Planhigion Porthiant (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3665 (Cy.297)) a dynnodd bysedd y blaidd gwynion, bysedd y blaidd dail cul (bysedd y blaidd glas), bysedd y blaidd melyn, ffacbys Hwngaraidd, ffacbys maethol, ffacbys blewog a maglys o'r diffiniad o “Hadau Ardystiedig” yn Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 a'u cynnwys yn hytrach o fewn y diffiniad o “Hadau Ardystiedig Cenhedlaeth Gyntaf”. Mae angen y diwygiadau er mwyn sicrhau bod y disgrifiadau o gategorïau o hadau y mae ffioedd yn cael eu rhagnodi ar eu cyfer yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau yn adlewyrchu'r newidiadau hyn.