- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
11 Mehefin 2002
Yn dod i rym
30 Gorffennaf 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000(3) fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(1) yn lle “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2002” rhoddir “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2002”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
John Marek
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
11 Mehefin 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”). Mae Rheoliadau 2000 yn gwneud darpariaethau ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol ac ymhellach yn gwneud darpariaeth am nifer y sesiynau ysgol y gellir eu neilltuo i hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol a strwythurau staffio ysgol.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn y cyfnod pryd y gellir neilltuo sesiynau ysgol yn llwyr neu yn bennaf ar gyfer hyfforddi athrawon mewn gwerthuso athrawon ysgol, system dâl athrawon ysgol neu strwythurau staffio ysgol (a nodir yn rheoliad 4 o Reoliadau 2000).
1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31).
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 2000/1323 (Cy. 101), a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2499 (Cy. 202) ac O.S. 2002/107 (Cy. 12).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: