2002 Rhif 1556 (Cy.153)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 30 Gorffennaf 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 20002
1
Diwygir Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 20003 fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 4(1) yn lle “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Gorffennaf 2002” rhoddir “y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Mai 2000 ac yn gorffen ar 31 Rhagfyr 2002”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
John MarekDirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)