xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'i wneud
4 Gorffennaf 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 20(1) a (3) o Ddeddf Digartrefedd 2002(1):
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Digartrefedd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Digartrefedd 2002 (“y Ddeddf”) ac Atodlenni iddi.
2.—(1) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yng Nghymru yw 30 Medi 2002.
(2) Y diwrnod penodedig ar gyfer dod â'r darpariaethau a bennwyd yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym yng Nghymru yw 27 Ionawr 2003.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Gorffennaf 2002
Erthygl 2
adran 1 | (Dyletswydd ar awdurdod tai lleol i fformiwleiddio strategaeth digartrefedd) |
adran 2 | (Adolygiadau digartrefedd) |
adran 3 | (Strategaethau digartrefedd) |
adran 4 | (Adran 1 i 3: dehongli) |
adran 5 | (Darparu llety ar gyfer pobl nad yw eu hanghenion yn flaenoriaeth nad ydynt yn ddigartref o fwriad) |
adran 6 | (Diddymu'r isafswm cyfnod y mae awdurdod yn ddarostyngedig i brif ddyletswydd digartrefedd) |
adran 7 | (Digwyddiadau sy'n achosi'r prif ddyletswydd digartrefedd i ddod i ben) |
adran 9 | (Diddymu dyletswydd o dan adran 197) |
adran 10 | (Personau sy'n honni eu bod yn ddigartref sydd mewn perygl o drais) |
adran 11 | (Adran 204(4): apelau) |
adran 12 | (Cydweithredu mewn rhai achosion sy'n cynnwys plant) |
adran 17 | (Cymru) |
adran 18 | (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau) — heblaw i'r graddau y mae'n berthnasol i'r darpariaetha yn yr Atodlenni i'r Ddeddf y cyfeirir atynt yn Rhan 2 o'r Atodlen hon. |
adran 19 | (Darpariaethau ariannol) |
Atodlen 1 | (Mân ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol) — heblaw am baragraffau 1 i 7 yn gynwysiedig |
Yn Atodlen 2 | (Diddymiadau), |
Deddf Tai 1996 (p.52) | Adran 191(4) Yn adran 193, yn is-adran(1), y geiriau o “This section” i'r diwedd, ac yn is-adran (8), y geiriau “of accommodation under Part VI”. Adran 194 Yn adran 195, yn is- adran(2), y geiriau o “This subsection” i'r diwedd ac, yn is- adran (4), y geiriau o “and section” i “duty)”. Adran 196(4) Adran 197 Yn adran 198(1), y geiriau o “The authority” i'r diwedd. Yn adran 200(5), y geiriau “(3) or (4)”. Yn adran 205(1) y cofnod mewn perthynas ag adran 207. Adran 207 Yn adran 218, y cofnod ar gyfer “minimum period” |
Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p.33) | Adran 117(4) |
adran 13 | (Cymhwyso Rhan 6 ar gyfer tenantiaid presennol) |
adran 14 | (Diddymu'r ddyletswydd i gadw cofrestr tai) |
adran 15 | (Cais am lety tai) |
adran 16 | (Cynlluniau neilltuo) |
adran 18 | (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau) — i'r graddau nad ydyw wedi dod i rym erbyn y dyddiad hwnnw |
Atodlen 1 | (Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) — paragraffau 1, 2, 4, 5 a 6 |
Atodlen 2 | (Diddymiadau) |
Deddf Tai 1985 (p.68) | Yn adran 106(6), y geiriau “housing registers and”. |
Deddf Tai 1996 (p.52) | Adrannau 161 i 165. Yn adran 174, y cofnodion ar gyfer “housing register” a “qualifying person”. |
Deddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p.33) | Adran 117 (3) |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Derbyniodd Deddf Digartrefedd 2002 (“y Ddeddf”) Gydsyniad Brenhinol ar 26 Chwefror 2002.
Daeth adran 8 a pharagraffau 3 a 7 o Atodlen 1 i'r Ddeddf i rym pan roddwyd Cydsyniad Brenhinol iddynt. Mae'r gorchymyn hwn yn dod â gweddill darpariaethau'r Ddeddf i rym yng Nghymru ar 30 Medi 2002 yn achos y darpariaethau digartrefedd ac ar 27 Ionawr 2003 yn achos y darpariaethau neilltuo tai.