xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1794 (Cy.169)

CEFN GWLAD, CYMRU

Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

9 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

1 Awst 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 11, 32, 38(6) a 44 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Rhan ICYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Gweithdrefnau Apelau) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn, bydd i eiriau neu ymadroddion yr ystyr a roddir iddynt yn y Ddeddf ac:

(2Yn y Rheoliadau hyn, oni phennir fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn ac mae unrhyw gyfeiriad mewn rheoliad at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y rhif hwnnw yn y rheoliad hwnnw.

(3Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod sy'n cael ei ddatgan yn y Rheoliadau hyn yn gyfnod sy'n dechrau ar ddyddiad penodol, nid yw'r dyddiad hwnnw i'w gynnwys ac os yw'r diwrnod neu'r diwrnod olaf y mae'n ofynnol gwneud rhywbeth arno o dan y Rheoliadau hyn, neu'n unol â hwy, yn ddydd Sul, yn ddydd Nadolig, yn ddydd Gwener y Groglith, yn ŵ yl banc neu'n ddiwrnod sydd wedi'i bennu ar gyfer diolchgarwch neu alar cyhoeddus, bernir bod y gofyniad yn ymwneud â thrannoeth nad yw'n un o'r dyddiau uchod.

Rhan IICYFNODAU CYCHWYNNOL YR APELAU

Camau gan y Cynulliad Cenedlaethol pan ddaw ffurflen apêl i law

3.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol resymol ar ôl iddo gael ffurflen apêl wedi'i chwblhau, anfon copi ohoni at yr atebydd.

Ymateb gan atebydd i apêl

4.—(1Rhaid i'r atebydd, o fewn 14 diwrnod ar ôl iddo gael ffurflen apêl oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:

(a)datganiad sy'n cynnwys rhywbeth i ddangos a fydd yn gwrthwynebu'r apêl ac, os felly, ei seiliau dros wneud hynny;

(b)copïau o unrhyw ohebiaeth berthnasol rhwng yr apelydd a'r atebydd;

(c)mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, copi o ddarn o fap sy'n dangos y rhan honno o'r map dros dro y mae'n berthnasol iddi;

(ch)copïau o unrhyw sylwadau a wnaed i'r atebydd gan unrhyw berson heblaw'r apelydd mewn perthynas â phenderfyniad ar ran yr atebydd y mae'r apêl yn berthnasol iddi; a

(d)unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.

(2Pan fydd yr atebydd wedi cydymffurfio â gofynion paragraff (1), rhaid i'r atebydd, cyn i'r cyfnod perthnasol a bennir yn rheoliad 5(2) ddirwyn i ben, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at yr apelydd:

(a)datganiad yn cadarnhau a fydd yn gwrthwynebu'r apêl;

(b)datganiad a ydyw'n dymuno cael gwrandawiad gan berson a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r apêl (yn hytrach na bod yr apêl yn cael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig) ac, os felly, a yw'n dymuno cael gwrandawiad mewn ymchwiliad lleol neu, ar y llaw arall, mewn gwrandawiad, ac

(c)unrhyw wybodaeth bellach y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am ei darparu.

Hysbysu'r partïon o'r weithdrefn apêl

5.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, heb fod yn gynt na diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), roi hysbysiad i'r apelydd ac i'r atebydd o'r ffurf y mae'r apêl i'w chymryd.

(2Rhaid peidio â rhoi hysbysiad o dan baragraff (1):

(a)cyn bod 21 diwrnod yn dirwyn i ben o'r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad neu'r hysbysiadau a roddwyd neu a gyhoeddwyd o dan reoliad 6(1) neu (b) fel y dyddiad erbyn pryd y gellid gwneud sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol; neu

(b)yn achos apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, ar ôl i dri mis ddirwyn i ben o ddyddiad dyroddir map dros dro y mae'r apêl yn berthnasol iddo,

p'un bynnag yw'r diweddaraf.

(3Rhaid bod yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) wedi'i ddyddio a rhaid iddo ddatgan a yw'r apêl i gymryd ffurf;

(a)ymchwiliad lleol;

(b)gwrandawiad; neu

(c)nid (a) na (b), a chan hynny caiff ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(4Y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (1) yw'r “dyddiad cychwyn” at ddibenion y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r apêl y mae'n cyfeirio ati a rhaid i'r hysbysiad gynnwys datganiad i'r perwyl hwnnw.

(5Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, ac mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliad 18(2)(a).

Hysbysu'r cyhoedd

6.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar yr un adeg y mae'n rhoi hysbysiad i'r apelydd ac i'r atebydd o dan reoliad 5(1), neu cyn gynted ag y mae'n ymarferol wedyn:

(a)cyhoeddi hysbysiad o'r apêl mewn o leiaf un papur newydd dyddiol sy'n cylchredeg drwy'r rhan gyfan honno o Gymru sy'n cynnwys yr ardal mae'r apêl yn ymwneud â hi ac mewn unrhyw bapurau newydd neu gyhoeddiadau eraill sy'n cylchredeg yn y rhan honno o Gymru y gwêl y Cynulliad yn dda; a

(b)os yw'n ymarferol, cyhoeddi hysbysiad o'r apêl ar wefan a gynhelir gan neu ar ran y Cynulliad Cenedlaethol; ac

(c)mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf, anfon hysbysiad o'r apêl at y cyrff a restrir yn Atodlen 1 i Reoliadau'r Mapiau Dros Dro.

(2Rhaid i hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff (1)(c) gael ei dyddio a rhaid datgan:

(a)enw'r apelydd;

(b)digon o wybodaeth i adnabod y tir y dygwyd yr apêl mewn perthynas ag ef;

(c)os yw'r apel yn cael ei dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf, ar ba rai o'r seiliau a bennir yn adran 6(3) o'r Ddeddf y mae'n cael ei dwyn;

(ch)y cyfeirnod a ddyrannwyd i'r apêl;

(d)y dyddiad cychwyn;

(dd)y dulliau y mae aelodau o'r cyhoedd yn gallu archwilio, a gael copïau o'r dogfennau sy'n ymwneud â'r apêl;

(e)y gellir gwneud sylwadau sy'n ymwneud â'r apêl, a gaiff fod naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn ysgrifenedig neu mewn ffurf electronig i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn y dyddiad hwnnw a bennir yn yr hysbysiad, a rhaid i'r dyddiad hwnnw beidio â bod yn gynharach na 6 wythnos ar ôl y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad yn unol â pharagraff (1)(a) neu (b), ac y bydd copïau o'r sylwadau hynny yn cael eu darparu i'r apelydd ac i'r atebydd;

(f)y cyfeiriad y mae unrhyw gyfathrebiad ysgrifenedig at y Cynulliad Cenedlaethol i gael ei anfon iddo;

(ff)p'un a ydyw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol neu wrandawiad neu os yw i gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig;

(g)os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, y bydd person sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff (2)(g) yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lle'r ymchwiliad a chaiff fod yn bresennol yn yr ymchwiliad, ond y caniateir iddo gymryd rhan yn yr ymchwiliad yn unig gyda chaniatâd y person a benodwyd i'w gynnal; ac

(ng)os yw'r apêl i gymryd ffurf gwrandawiad, y bydd y person sy'n gwneud sylwadau yn unol â pharagraff 2(g) yn cael ei hysbysu o ddyddiad a lle'r gwrandawiad ond y caniateir iddo fod yn bresennol a chymryd rhan yn y gwrandawiad yn unig gyda chaniatâd y person a benodwyd i'w gynnal.

(3Os yw'r apêl i gymryd ffurf ymchwiliad lleol, a bod y Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r hysbysiad a gyhoeddir o dan baragraff 1(a) neu (b) neu a anfonir o dan baragraff 1(c) hefyd gydymffurfio â gofynion rheoliad 18(2)(b).

(4Caiff unrhyw hysbysiad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraff (1)(a), (b) neu (c), yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol ei chynnwys yn yr hysbysiad hwnnw gan y rheoliad hwn, gynnwys gwybodaeth bellach o'r fath y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.

Rhan IIIAPELAU A BENDERFYNIR AR SAIL SYLWADAU YSGRIFENEDIG

Cymhwysiad

7.  Mae rheoliadau 8 a 9 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Cyfnewid tystiolaeth

8.—(1Yn ychwanegol at unrhyw ddogfennau a anfonwyd eisoes at y Cynulliad Cenedlaethol gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Mapiau Dros Dro (mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf), a chan yr atebydd yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu, os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach o'r fath neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau yn unol â pharagraff (1), anfon copi o'r sylwadau, y dogfennau neu'r hysbysiadau hynny at yr apelydd neu'r atebydd, fel y bo'n briodol.

(3Rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.

(4Pan fydd sylwadau wedi'u gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol gan unrhyw un heblaw'r apelydd neu'r atebydd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael y sylwadau hynny, anfon copi ohonynt at yr apelydd a'r atebydd, a rhaid iddynt, os ydynt yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau ar y sylwadau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol, anfon dau gopi o'u sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos penodol, wahodd yr apelydd a'r atebydd i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at ei gilydd, o fewn yr amser rhesymol hwnnw y gall ei bennu, sylwadau pellach neu ddogfennau eraill y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r apêl i gael ei phenderfynu.

Penderfyniad ar apêl a benderfynir drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig

9.—(1Caiff y person penodedig, ar ôl i unrhyw derfynau amser ddirwyn i ben erbyn pryd y mae'n ofynnol neu y caniateir i'r apelydd neu'r atebydd gymryd unrhyw gam yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac ar ôl rhoi i'r apelydd a'r atebydd hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny, fynd rhagddo i benderfynu'r apêl drwy gymryd i ystyriaeth y sylwadau a'r dogfennau eraill hynny a gyflwynwyd i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn y terfynau amser perthnasol.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu ei benderfyniad ar apêl, a'i resymau dros ddod i'r penderfyniad hwnnw, yn ysgrifenedig:

(a)i'r apelydd;

(b)i'r atebydd;

(c)i unrhyw berson â diddordeb; ac

(ch)i unrhyw berson arall sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried y mae'n rhesymol ei hysbysu.

Rhan IVAPELAU A BENDERFYNIR AR ÔL GWRANDAWIAD

Cymhwysiad

10.  Mae rheoliadau 11 i 16 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu ar ôl gwrandawiad.

Cyfnewid tystiolaeth

11.  Mae rheoliad 8 i'w gymhwyso i apêl sydd i'w phenderfynu ar ôl gwrandawiad fel y mae i apêl sydd i'w phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

Dyddiad a hysbysiad gwrandawiad

12.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol wneud y canlynol:

(a)cyn gynted ag y mae'n ymarferol, hysbysu'r apelydd, yr atebydd, unrhyw berson sydd wedi gwneud sylwadau mewn perthynas â'r apêl ac unrhyw berson arall y gwêl yn dda, o enw'r person penodedig a fydd yn cynnal y gwrandawiad;

(b)cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl unrhyw newid yn hunaniaeth y person penodedig, rhoi hysbysiad o'r newid hwnnw i'r personau sydd â hawl i gael eu hysbysu yn unol ag is-baragraff (a), onid nad yw'n rhesymol ymarferol i wneud hynny cyn cynnal y gwrandawiad, ac os felly rhaid datgan enw'r person penodedig a'r ffaith bod y person hwnnw wedi'i benodi ar ddechrau'r gwrandawiad;

(c)oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar gyfnod llai o hysbysiad gyda'r apelydd a'r atebydd, rhoi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 4 wythnos i'r apelydd, yr atebydd, unrhyw berson â diddordeb a phersonau eraill y gwêl yn dda o'r dyddiad, amser a'r lle a drefnwyd ar gyfer y gwrandawiad; a

(ch)heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennir i gynnal y gwrandawiad, cyhoeddi hysbysiad o'r gwrandawiad yn un neu fwy o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir y tir ynddi.

(2Rhaid i bob hysbysiad o wrandawiad a roddir yn unol â pharagraff (1)(c) neu a gyhoeddir yn unol â pharagraff (1)(ch) gynnwys:

(a)datganiad o ddyddiad, amser a lle'r gwrandawiad ac o'r pwerau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl o dan sylw;

(b)disgrifiad ysgrifenedig o'r tir sy'n ddigonol i ddynodi ei leoliad a'i hyd a'i led;

(c)disgrifiad byr o destun yr apêl; ac

(ch)manylion ynghylch ble a phryd y gellir archwilio copïau o'r dogfennau perthnasol i'r apêl.

(3Er gwaethaf paragraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal y gwrandawiad, p'un a ydyw'r dyddiad fel y'i hamrwyiwyd o fewn y cyfnod sydd fel arall yn ofynnol gan y paragraff hwnnw neu beidio, ac mae paragraff (1)(c) a (ch) yn gymwys i'r dyddiad a amrywiwyd fel yr oedd yn gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle a bennwyd ar gyfer cynnal y gwrandawiad a rhaid rhoi hysbysiad o unrhyw amrywiad fel y gwêl yn rhesymol.

Hawl i fod yn bresennol mewn gwrandawiad a chymryd rhan ynddo

13.  Mae gan yr apelydd a'r atebydd hawl i fod yn bresennol a chymryd rhan mewn gwrandawiad, a gall y person penodedig ganiatáu i unrhyw bersonau eraill wneud hynny (naill ai ar eu rhan eu hunain neu ar ran unrhyw berson arall).

Y weithdrefn mewn gwrandawiad

14.—(1Ac eithrio unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, caiff y person penodedig benderfynu'r weithdrefn mewn gwrandawiad.

(2Mae gwrandawiad i gymryd ffurf trafodaeth sy'n cael ei llywio gan y person penodedig ac ni chaniateir croesholi onid yw'r person penodedig yn ystyried ei fod yn ofynnol i sicrhau archwiliad priodol o'r pynciau sy'n berthnasol i'r apêl.

(3Rhaid i berson penodedig sy'n ystyried bod croesholi'n ofynnol o dan paragraff (2) ystyried, ar ôl ymgynghori â'r apelydd a'r atebydd, a ddylid cau'r gwrandawiad a chynnal ymchwiliad yn ei le.

(4Ar ddechrau'r gwrandawiad, rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau sy'n ymddangos i'r person penodedig mai hwy yw'r prif bynciau i'w hystyried yn y gwrandawiad ac unrhyw faterion y mae'r person penodedig angen esboniad pellach arnynt gan unrhyw berson y mae ganddo hawl i gymryd rhan neu a ganiateir iddo gymryd rhan.

(5Nid oes dim ym mharagraff (4) i atal unrhyw berson y mae ganddo hawl neu y caniateir iddo gymryd rhan yn y gwrandawiad rhag cyfeirio at bynciau y mae'n ystyried eu bod yn berthnasol wrth ystyried yr apêl ond nad oeddent yn bynciau â nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.

(6Caiff person sydd â hawl i gymryd rhan mewn gwrandawiad, yn ddarostyngedig i'r paragraffau blaenorol ac i baragraffau (7) ac (8), alw tystiolaeth ond, fel arall bydd galw tystiolaeth yn fater disgresiwn y person penodedig.

(7Caiff y person penodedig wrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar neu gyflwyno unrhyw fater arall y mae'r person penodedig yn ystyried ei fod yn amherthnasol neu'n ailadroddus ond, os bydd y person penodedig yn gwrthod caniatáu rhoi tystiolaeth lafar, caiff y person sy'n dymuno rhoi'r dystiolaeth gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn i'r gwrandawiad gau.

(8Caiff y person penodedig:

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cymryd rhan neu sy'n bresennol mewn gwrandawiad a sydd, ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar i adael, a

(b)gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu ganiatáu i'r person ddychwelyd yn unig o dan yr amodau hynny y gall y person penodedig eu pennu,

ond caiff person o'r fath gyflwyno unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig i'r person penodedig cyn i'r gwrandawiad gau.

(9Caiff person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid neu ychwanegu at ddatganiad i'r graddau y bo hynny'n angenrheidiol at ddibenion y gwrandawiad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r gwrandawiad os oes angen) roi cyfle digonol i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn y gwrandawiad i ystyried unrhyw fater neu ddogfen o'r newydd.

(10Caiff y person penodedig fwrw ymlaen â'r gwrandawiad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan ynddo.

(11Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen ysgrifenedig arall a ddaeth i law'r person penodedig oddi wrth unrhyw berson cyn i'r gwrandawiad agor neu yn ystod y gwrandawiad ar yr amod bod y person penodedig yn ei ddatgelu yn y gwrandawiad.

(12Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio gwrandawiad ac, os cyhoeddir dyddiad, amser a lle'r gwrandawiad gohiriedig yn y gwrandawiad cyn y gohiriad, ni fydd yn ofynnol cael hysbysiad pellach.

Penderfyniad ar ôl gwrandawiad

15.—(1Caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau, tystiolaeth neu ddogfennau eraill a ddaeth i law ar ôl i'r gwrandawiad gau.

(2Os bydd y person penodedig, ar ôl i'r gwrandawiad gau, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw'n fater o bolisi'r llywodraeth) na chafodd ei godi yn y gwrandawiad ac y mae'r person penodedig yn ystyried ei fod o bwys i'r penderfyniad, rhaid i'r person penodedig beidio â gwneud hynny heb yn gyntaf:

(a)hysbysu'r personau y mae ganddynt hawl i gymryd rhan yn y gwrandawiad (p'un a oeddent yn bresennol yn y gwrandawiad neu beidio) o'r mater o dan sylw, a

(b)rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am ailagor y gwrandawiad,

ar yr amod bod y sylwadau ysgrifenedig hynny neu'r cais i ailagor y gwrandawiad yn dod i law'r Cynullaid Cenedlaethol o fewn 3 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad.

(3Caiff person penodedig beri bod gwrandawiad yn cael ei ailagor a rhaid i'r person penodedig wneud hynny os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd yn yr amgylchiadau ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (2) ac os yw'r gwrandawiad yn cael ei ailagor:

(a)rhaid i'r person penodedig anfon at y personau y mae ganddynt hawl i gymryd ran yn y gwrandawiad ac a gymerodd rhan ynddo ddatganiad ysgrifenedig o'r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach yn eu cylch; a

(b)mae rheoliad 12(1)(c) a (ch) i fod yn gymwys fel pe bai'r cyfeiriadau at wrandawiad yn gyfeiriadau at wrandawiad a ailagorwyd.

Hysbysu'r penderfyniad

16.—(1Rhaid hysybysu penderfyniad y person penodedig a'r rhesymau amdano yn ysgrifenedig:

(a)i'r apelydd;

(b)i'r atebydd;

(c)i unrhyw berson arall a gymerodd ran yn y gwrandawiad a gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad.

(2Caiff unrhyw berson â hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, i gael cyfle i archwilio unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (2) sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael o fewn 6 wythnos o ddyddiad penderfyniad yr apêl.

Rhan VAPELAU A BENDERFYNIR AR ÔL YMCHWILIAD CYHOEDDUS LLEOL

Cymhwysiad

17.  Mae rheoliadau 18 i 28 yn gymwys i apelau sydd i'w penderfynu yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus lleol.

Y weithdrefn pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn peri bod cyfarfod cyn-ymchwiliad yn cael ei gynnal

18.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:

(a)os yw'n disgwyl y bydd ymchwiliad yn para am 8 diwrnod neu fwy, onid yw o'r farn bod cyfarfod o'r fath yn ddiangen;

(b)o ran ymchwiliadau byrrach, os yw'n ymddangos eu bod yn angenrheidiol.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu cynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad:

(a)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon gyda'r hysbysiad y mae'n ei roi yn unol â rheoliad 5(1) neu gynnwys ynddo:

(i)hysbysiad o'i fwriad i gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad; a

(ii)datganiad o'r materion y mae'n benodol yn dymuno cael gwybodaeth amdanynt at ddibenion ei ystyriaethau ar yr apêl o dan sylw;

(b)rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gynnwys yn yr hysbysiad y mae'n ei gyhoeddi yn unol â rheoliad 6(1)(a) neu (b) neu y mae'n ei anfon yn unol â rheoliad 6(1)(c), hysbysiad o'i fwriad i gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad a datganiad o'r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(a)(ii); ac

(c)rhaid i'r apelydd â'r atebydd ill dau anfon dau gopi o'u datganiad amlinellol at y Cynulliad Cenedlaethol o fewn 8 wythnos o'r dyddiad cychwyn.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad amlinellol yr atebydd at yr apelydd a datganiad amlinellol yr apelydd at yr atebydd.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw bersonau â diddordeb sydd wedi ei hysbysu o fwriad neu ddymuniad i gymryd rhan yn yr ymchwiliad anfon datganiad amlinellol ato, at yr apelydd ac at yr atebydd, a rhaid i'r personau hynny â diddordeb sicrhau bod datganiad o'r fath yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, yr apelydd a'r atebydd o fewn 4 wythnos i ddyddiad gofyniad ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol.

(5Rhaid cynnal y cyfarfod cyn-ymchwiliad (neu, os oes mwy nag un, y cyfarfod cyn-ymchwiliad cyntaf) o fewn 16 wythnos o'r dyddiad cychwyn.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi hysbysiad heb fod yn llai na 3 wythnos o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad i'r apelydd, yr atebydd, i unrhyw berson â diddordeb y gwyddys ar ddyddiad yr hysbysiad ei fod yn dymuno cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol y byddai ei bresenoldeb yn ddymunol, a rhaid iddo, mewn perthynas â hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad, gymryd un neu fwy o'r camau a bennir, mewn perthynas â'r ymchwiliad, yn rheoliad 22(6).

(7O ran y person penodedig:

(a)mae i lywyddu yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad;

(b)mae i benderfynu'r materion sydd i'w trafod a'r weithdrefn sydd i'w dilyn;

(c)caiff ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n bresennol yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad, sydd ym marn y person penodedig yn ymddwyn mewn dull aflonyddgar i ymadael; ac

(ch)caiff wrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu bod yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach, neu ganiatáu i'r person hwnnw ddychwelyd neu fod yn bresennol yn unig o dan yr amodau y caiff y person penodedig eu pennu.

(8Os cafodd cyfarfod cyn-ymchwiliad ei gynnal yn unol â pharagraff (1), caiff y person penodedig gynnal cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach a rhaid iddo drefnu rhoi hysbysiad o'r cyfarfod cyn-ymchwiliad pellach y mae'n ymddangos ei fod yn angenrheidiol i'r person penodedig; ac mae paragraff (7) i fod yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad pellach o'r fath.

(9Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn am wybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd neu'r atebydd mewn cyfarfod cyn-ymchwiliad, rhaid i'r person y gofynnir am yr wybodaeth oddi wrtho sicrhau bod dau gopi o'r wybodaeth honno yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y gall y person penodedig ei gwneud yn ofynnol bod copi yn cael ei roi iddo, o fewn 4 wythnos ar ôl i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad ddod i ben a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.

Cael datganiadau o achos a.y.y.b.

19.—(1Rhaid i'r atebydd sicrhau:

(a)o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn; neu

(b)os cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, o fewn 4 wythnos i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad hwnnw ddod i ben,

bod dau gopi o ddatganiad o achos yr atebydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.

(2Rhaid i'r atebydd, yn ei ddatganiad o achos, gynnwys manylion o'r lle a'r amserau y rhoddir cyfle i archwilio a chymryd copïau o'r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (12) isod.

(3Rhaid i'r apelydd sicrhau:

(a)o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn; neu

(b)os cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, o fewn 4 wythnos i'r cyfarfod cyn-ymchwiliad hwnnw ddod i ben,

bod dau gopi o ddatganiad o achos yr apelydd wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol a bod copi o'r datganiad o achos hwnnw wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi o'r datganiad o achos hwnnw'n cael ei roi iddo.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o ddatganiad o achos yr atebydd at yr apelydd a chopi o ddatganiad yr apelydd at yr atebydd.

(5Caiff yr apelydd a'r atebydd, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i'r llall anfon copi ato o unrhyw ddogfen, neu ran berthnasol o unrhyw ddogfen, y cyfeirir ati yn y rhestr o ddogfennau a gynhwysir yn natganiad o achos y llall; a rhaid anfon unrhyw ddogfen felly, neu ran berthnasol ohoni, cyn gynted ag y mae'n ymarferol, at y parti a ofynnodd amdani.

(6Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson arall, sydd wedi ei hysbysu o ddymuniad i geisio caniatâd y person penodedig i gymryd rhan yn yr ymchwiliad, anfon:

(a)tri chopi o'i ddatganiad o achos ato o fewn 4 wythnos ar ôl gofyn amdano; a

(b)copi o'i ddatganiad o achos i unrhyw berson â diddordeb a bennwyd,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o bob datganiad o achos o'r fath at yr apelydd ac at yr atebydd.

(7Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol;

(a)anfon at berson y gofynnodd am ddatganiad o achos oddi wrtho yn unol â pharagraff (6) gopi o ddatganiad o achos yr apelydd a'r atebydd; a

(b)hysbysu'r person hwnnw o enw a chyfeiriad pob person y mae'n ofynnol anfon datganiad o achos y person hwnnw ato.

(8Caiff y Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson, sydd wedi anfon datganiad o achos ato yn unol â'r rheoliad hwn, roi unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y materion a gynhwysir yn y datganiad o achos y caiff eu pennu a chaiff bennu'r amser erbyn pryd mae'n rhaid i'r wybodaeth ddod i law.

(9Os gofynnir i'r atebydd neu'r apelydd roi gwybodaeth bellach, rhaid iddynt sicrhau:

(a)bod dau gopi o'r wybodaeth honno'n ysgrifenedig wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, o fewn yr amser a bennwyd; a

(b)bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol ei roi iddo o fewn yr amser a bennwyd,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl iddo ddod i law, anfon copi at yr apelydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr atebydd ac anfon copi at yr atebydd o'r wybodaeth bellach a gafwyd oddi wrth yr apelydd.

(10Rhaid i unrhyw berson arall y mae'n ofynnol iddo roi gwybodaeth bellach sicrhau:

(a)bod tri chopi o'r wybodaeth honno yn ysgrifenedig wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn yr amser penodedig; a

(b)bod copi wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y gall fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi ei wneud yn ofynnol i'w rhoi o fewn yr amser penodedig,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r wybodaeth bellach at yr atebydd ac at yr apelydd.

(11Rhaid i unrhyw berson heblaw'r apelydd sy'n anfon datganiad o achos at y Cynulliad Cenedlaethol anfon gydag ef gopi:

(a)o unrhyw ddogfen; neu

(b)o ran berthnasol o unrhyw ddogfen,

y cyfeirir ati yn y rhestr a gynhwysir yn y datganiad hwnnw, onid oes copi o'r ddogfen neu ran o'r ddogfen o dan sylw eisoes ar gael i'w harchwilio yn unol â pharagraff (12).

(12Rhaid i'r atebydd roi cyfle rhesymol i unrhyw berson sy'n gofyn amdano i archwilio a, lle bo'n ymarferol, wneud copïau:

(a)o unrhyw ddatganiad o achos, sylwadau ysgrifenedig, gwybodaeth neu ddogfen arall yr anfonwyd copi ohonynt at yr atebydd yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)o ddatganiad o achos yr atebydd ynghyd â chopi o unrhyw ddogfen, neu ran berthnasol o unrhyw ddogfen, y cyfeirir ati yn y rhestr a gynhwysir yn y datganiad hwnnw, ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig, gwybodaeth neu ddogfennau eraill a anfonwyd gan yr atebydd yn unol â'r rheoliad hwn.

(13Os bydd yr atebydd neu'r apelydd yn dymuno gwneud sylw ar ddatganiad o achos y llall rhaid iddynt sicrhau o fewn 9 wythnos i'r dyddiad cychwyn:

(a)bod dau gopi o'i sylwadau ysgrifenedig wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)bod copi o'i sylwadau ysgrifenedig wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud hi'n ofynnol ei fod yn ei gael,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr apelydd at yr atebydd a chopi o sylwadau ysgrifenedig a gafwyd oddi wrth yr atebydd at yr apelydd.

(14Rhaid i unrhyw berson sy'n anfon datganiad o achos at y Cynulliad Cenedlaethol o dan y rheoliad hwn ac sy'n dymuno gwneud sylw ar ddatganiad o achos unrhyw berson arall, sicrhau heb fod yn llai na 4 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad:

(a)bod tri chopi o sylwadau ysgrifenedig y person hwnnw wedi dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)bod copi o'r sylwadau ysgrifenedig hynny wedi dod i law unrhyw berson â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud hi'n ofynnol iddo ei gael,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, anfon copi o'r sylwadau ysgrifenedig at yr apelydd ac at yr atebydd.

(15Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon at y person penodedig unrhyw ddatganiad o achos, dogfen neu wybodaeth bellach neu sylwadau ysgrifenedig a anfonwyd ato yn unol â'r rheoliad hwn ac a ddaeth i'w law o fewn y cyfnod perthnasol, os o gwbl, a bennir yn y rheoliad hwn.

Pŵer pellach y person penodedig i gynnal cyfarfodydd cyn-ymchwiliad

20.—(1Os na chynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, caiff y person penodedig gynnal un os yw'r person penodedig yn meddwl ei fod yn angenrheidiol.

(2Rhaid i berson penodedig roi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 2 wythnos o gyfarfod cyn-ymchwiliad sydd i'w gynnal o dan baragraff (1):

(a)i'r apelydd;

(b)i'r atebydd;

(c)i unrhyw berson y gwyddys ar ddyddiad yr hysbysiad fod ganddo hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad; ac

(ch)i unrhyw berson arall y mae'n ymddangos iddo fod ei bresenoldeb yn y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn ddymunol.

(3Mae rheoliad 18(7) yn gymwys i gyfarfod cyn-ymchwiliad a gynhelir o dan y rheoliad hwn.

Amserlen yr ymchwiliad

21.—(1Rhaid i berson penodedig drefnu amserlen ar gyfer y gweithdrefnau mewn ymchwiliad, neu ran o ymchwiliad:

(a)os cynhelir y cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18; neu

(b)os yw'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn debygol y bydd yr ymchwiliad yn para am wyth diwrnod neu fwy.

(2Caiff y person penodedig drefnu amserlen ar gyfer y gweithdrefnau mewn unrhyw ymchwiliad arall, neu ran o ymchwiliad arall, a chaiff ar unrhyw adeg, amrywio'r amserlen a drefnwyd o dan y paragraff hwn, neu'r paragraff blaenorol.

(3Caiff y person penodedig bennu mewn amserlen a drefnir yn unol â'r rheoliad hwn ddyddiad y mae'n rhaid i unrhyw broflen dystiolaeth a chrynodeb a anfonnir yn unol â rheoliad 24(1) ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad

22.—(1Rhaid i'r dyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cynnal ymchwiliad, onid yw'n ystyried bod y dyddiad hwnnw'n anymarferol, beidio â bod yn hwyrach na:

(a)22 wythnos ar ôl y dyddiad cychwyn; neu

(b)mewn achos lle cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, 8 wythnos ar ôl i'r cyfarfod hwnnw ddod i ben.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn anymarferol i bennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol a grybwyllir yn y paragraff hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn ymarferol.

(3Oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar gyfnod o hysbysiad llai gyda'r apelydd a'r atebydd, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 4 wythnos, o'r dyddiad, amser a'r lle a bennir ganddo i gynnal ymchwiliad i bob person y mae ganddo hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennir i gynnal ymchwiliad, p'un a ydyw'r dyddiad fel y'i hamrywiwyd o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (1) neu beidio; a bydd paragraff (3) yn gymwys i'r dyddiad a amrywiwyd fel y mae'n gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle ar gyfer cynnal ymchwiliad a rhaid iddo roi hysbysiad o unrhyw amrywiad y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:

(a)heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, gyhoeddi hysbysiad o'r ymchwiliad yn un neu fwy o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir y tir ynddi;

(b)anfon hysbysiad o'r ymchwiliad at y personau hynny neu'r dosbarthiadau o bersonau y gall eu pennu, o fewn y cyfnod a all bennu.

(7Rhaid i bob hysbysiad o ymchwiliad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraph (6),

(a)cynnwys datganiad clir o'r dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad ac o'r pwerau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r cais neu'r apêl o dan sylw;

(b)cynnwys disgrifiad ysgrifenedig o'r tir sy'n ddigonol i alluogi adnabod lleoliad a hyd a lled y tir yn fras;

(c)disgrifio'n gryno destun yr apêl; ac

(ch)rhoi manylion o lle a phryd y gellir archwilio copïau o ddatganiad o achos yr atebydd ac unrhyw ddogfennau a anfonwyd gan yr atebydd ac a gopïwyd i'r atebydd yn unol â rheoliad 19.

Hawl i fod yn bresennol ac i gymryd rhan mewn ymchwiliad

23.—(1Dyma'r personau sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad:

(a)yr apelydd;

(b)yr atebydd; ac

(c)unrhyw swyddog o unrhyw awdurdod lleol neu awdurdod parc cenedlaethol y mae eu hardal yn cynnwys tir y mae'r apêl yn berthnasol iddo.

(2Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson arall gymryd rhan mewn ymchwiliad.

(3Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad neu y caniateir iddo wneud hynny ar ei ran ei hun neu gael ei gynrychioli gan unrhyw berson arall.

Proflenni tystiolaeth

24.—(1Rhaid i unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad sy'n bwriadu rhoi, neu'n bwriadu galw ar berson arall i roi, tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth:

(a)anfon dau gopi, yn achos yr atebydd neu'r apelydd, neu dri chopi yn achos unrhyw berson arall, o'r broflen dystiolaeth ynghyd ag unrhyw grynodeb ysgrifenedig, at y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)ar yr un pryd anfon copïau o'r rhain at unrhyw berson â diddordeb y gall fod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i gwneud yn ofynnol iddynt eu cael,

a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o bob proflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb at yr atebydd a'r apelydd.

(2Nid oes angen crynodeb ysgrifenedig os yw'r broflen dystiolaeth y bwriedir ei darllen yn cynnwys dim mwy na 1,500 o eiriau.

(3Rhaid i'r broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na:

(a)4 wythnos cyn y dyddiad a bennir i gynnal yr ymchwiliad; neu

(b)os cafodd yr amserlen ei threfnu'n unol â rheoliad 21 sy'n pennu dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid i broflen dystiolaeth ac unrhyw grynodeb ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol, y dyddiad hwnnw.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon at y person penodedig, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl ei gael, unrhyw broflen dystiolaeth ynghyd â chrynodeb a anfonwyd ato yn unol â'r rheoliad hwn ac a gafodd o fewn y cyfnod perthnasol a bennir yn y rheoliad hwn.

(5Os rhoddir crynodeb ysgrifenedig yn unol â pharagraff (1), dim ond y crynodeb hwnnw gaiff ei ddarllen yn yr ymchwiliad, oni fydd y person penodedig yn caniatáu neu'n mynnu fel arall.

(6Rhaid i unrhyw berson y mae'r rheoliad hwn yn ei gwneud yn ofynnol i anfon copïau o broflen dystiolaeth at y Cynulliad Cenedlaethol anfon gyda hwy yr un nifer o gopïau o'r cyfan, neu o'r rhan berthnasol, o unrhyw ddogfen y cyfeirir ati yn y broflen dystiolaeth, onid oes copi o'r ddogfen neu ran o'r ddogfen o dan sylw eisoes ar gael i'w harchwilio yn unol â rheoliad 19(12).

(7Rhaid i'r atebydd roi cyfle rhesymol i unrhyw berson sy'n gofyn amdano i archwilio ac, os yw'n ymarferol, gymryd copïau o unrhyw ddogfen a anfonwyd at yr atebydd neu oddi wrtho yn unol â'r rheoliad hwn.

Datganiad o dir cyffredin

25.—(1Rhaid i'r atebydd a'r apelydd:

(a)baratoi gyda'i gilydd ddatganiad cytûn o dir cyffredin; a

(b)sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol ac unrhyw berson arall â diddordeb y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud hi'n ofynnol bod copi yn cael ei anfon ato yn cael copi ohono heb fod yn llai na 4 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad.

(2Rhaid i'r atebydd roi i unrhyw berson sy'n gofyn am hynny gyfle rhesymol i archwilio, a lle bo'n ymarferol, gymryd copïau o'r datganiad o dir cyffredin a anfonwyd at y Cynulliad Cenedlaethol.

Y weithdrefn mewn ymchwiliad

26.—(1Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, y person penodedig sydd i benderfynu'r weithdrefn mewn ymchwiliad.

(2Ar ddechrau'r ymchwiliad rhaid i'r person penodedig nodi'r pynciau sydd, ym marn y person penodedig, yn brif bynciau i'w hystyried yn yr ymchwiliad ac unrhyw faterion y mae'r person penodedig yn gofyn am esboniad pellach yn eu cylch oddi wrth y personau sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan.

(3Nid oes dim ym mharagraff (2) i atal unrhyw berson sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan rhag cyfeirio at bynciau y maent hwy yn eu hystyried sy'n berthnasol ar gyfer ystyried y cais neu'r apêl ond nad oeddent yn bynciau a nodwyd gan y person penodedig yn unol â'r paragraff hwnnw.

(4Oni fydd y person penodedig mewn achos penodedig yn penderfynu fel arall, yr atebydd sydd i ddechrau a'r apelydd sydd i gael hawl i ateb yn derfynol; ac mae'r personau eraill sydd â hawl neu a ganiateir i gymryd rhan i'w clywed yn y drefn honno y bydd y person penodedig yn penderfynu arni.

(5Bydd gan berson sydd â hawl i gymryd rhan mewn ymchwiliad yr hawl i alw tystiolaeth a bydd gan yr apelydd, yr atebydd, ac unrhyw berson â diddordeb yr hawl i groesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth, ond, yn ddarostyngedig i'r uchod a pharagraffau (6) a (7), bydd galw tystiolaeth a chroesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth fel arall yn ôl disgresiwn y person penodedig.

(6Caiff y person penodedig wrthod caniatáu:

(a)rhoi neu ddangos tystiolaeth;

(b)croesholi personau sy'n rhoi tystiolaeth; neu

(c)cyflwyno unrhyw fater arall,

y mae'r person penodedig o'r farn eu bod yn amherthnasol neu'n ailadroddus; ond os yw'r person penodedig yn gwrthod caniatáu i dystiolaeth lafar gael ei rhoi, caiff y person sy'n dymuno rhoi tystiolaeth gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.

(7Os bydd person yn rhoi tystiolaeth mewn ymchwiliad drwy ddarllen proflen dystiolaeth yn unol â rheoliad 24(5):

(a)rhaid trin y broflen dystiolaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 24(1) fel un wedi'i chyflwyno mewn tystiolaeth, onid yw'r person y gofynwyd iddo ddarparu'r crynodeb yn dymuno dibynnu ar gynnwys y crynodeb hwnnw'n unig a'i fod yn hysbysu'r person penodedig o'r ffaith honno; neu

(b)y mae'r person y cynhwysir ei dystiolaeth yn y broflen dystiolaeth wedyn yn agored i gael ei groesholi arni i'r un graddau â phe bai'n dystiolaeth yr oedd y person hwnnw wedi'i rhoi ar lafar.

(8Caiff y person penodedig gyfarwyddo bod cyfleusterau'n cael eu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad i gymryd neu gael copïau o dystiolaeth ddogfennol sy'n agored i archwiliad gan y cyhoedd.

(9Caiff y person penodedig:

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cymryd rhan mewn ymchwiliad neu sy'n bresennol ynddo, sydd ym marn y person penodedig, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar i ymadael; a

(b)gwrthod caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd; neu

(c)caniatáu i'r person hwnnw ddychwelyd o dan yr amodau hynny'n unig y caiff y person penodedig eu pennu,

ond caiff y cyfryw berson gyflwyno i'r person penodedig unrhyw dystiolaeth neu fater arall yn ysgrifenedig cyn i'r ymchwiliad gau.

(10Caiff y person penodedig ganiatáu i unrhyw berson newid neu ychwanegu at ddatganiad o achos a gafwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan y person penodedig o dan reoliad 19 i'r graddau y bo angen at ddibenion yr ymchwiliad, ond rhaid i'r person penodedig (drwy ohirio'r ymchwiliad os oes angen) roi i bob person arall sydd â hawl i gymryd rhan ac sydd mewn gwirionedd yn cymryd rhan yn yr ymchwiliad gyfle digonol i ystyried unrhyw fater neu ddogfen o'r newydd.

(11Caiff y person penodedig fwrw ymlaen ag ymchwiliad yn absenoldeb unrhyw berson sydd â hawl i gymryd rhan ynddo.

(12Caiff y person penodedig gymryd i ystyriaeth unrhyw sylw neu dystiolaeth ysgrifenedig neu unrhyw ddogfen arall a gafwyd oddi wrth unrhyw berson cyn i'r ymchwiliad agor neu yn ystod yr ymchwiliad ar yr amod bod y person penodedig yn ei ddangos yn yr ymchwiliad.

(13Caiff y person penodedig o dro i dro ohirio ymchwiliad ac, os cyhoeddir y dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad gohiriedig yn yr ymchwiliad cyn y gohiriad, ni fydd angen hysbysiad pellach.

(14O ran unrhyw ymchwiliad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn disgwyl y bydd yn para am 8 diwrnod neu fwy, rhaid i unrhyw berson sy'n cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac sy'n cyflwyno dadleuon terfynol, ddarparu, cyn i'r ymchwiliad gau, gopi o'r dadleuon hynny yn ysgrifenedig i'r person penodedig.

Penderfyniad ar ôl ymchwiliad

27.—(1Os cafodd asesydd ei benodi, caiff yr asesydd wneud adroddiad yn ysgrifenedig i'r person penodedig mewn perthynas â'r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori arnynt.

(2Wrth wneud penderfyniad mewn perthynas â'r apêl, caiff y person penodedig anwybyddu unrhyw sylwadau ysgrifenedig, neu dystiolaeth neu unrhyw ddogfen a ddaeth i law ar ôl i'r ymchwiliad gau.

(3Os bydd y person penodedig, ar ôl i'r ymchwiliad gau, yn bwriadu cymryd i ystyriaeth unrhyw dystiolaeth newydd neu unrhyw fater o ffaith newydd (nad yw'n fater o bolisi'r llywodraeth) na chafodd ei godi yn yr ymchwiliad ac y mae'r person penodedig o'r farn ei fod o bwys i'r penderfyniad, rhaid i'r person penodedig beidio â dod i benderfyniad heb yn gyntaf:

(a)hysbysu'r personau sydd â hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac a gymerodd rhan ynddo o'r mater o dan sylw; a

(b)rhoi cyfle iddynt wneud sylwadau ysgrifenedig i'r person penodedig neu iddynt ofyn am ailagor yr ymchwiliad,

a byddant yn sicrhau bod sylwadau ysgrifenedig o'r fath neu gais i ailagor yr ymchwiliad yn dod i law'r person penodedig o fewn 3 wythnos o ddyddiad yr hysbysiad.

(4Caiff person penodedig beri bod ymchwiliad yn cael ei ailagor a rhaid iddo wneud hynny os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd yn yr amgylchiadau ac o fewn y cyfnod a grybwyllir ym mharagraff (3); ac os ailagorir ymchwiliad:

(a)rhaid i'r person penodedig anfon at y personau sydd â hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac a gymerodd rhan ynddo mewn gwirionedd ddatganiad ysgrifenedig o'r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach yn eu cylch; a

(b)mae rheoliad 22(3) i (7) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at ymchwiliad yn gyfeiriadau at ymchwiliad a ailagorwyd.

Hysbysu'r penderfyniad

28.—(1Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y person penodedig a'r rhesymau amdano:

(a)i'r apelydd;

(b)i'r atebydd;

(c)i unrhyw berson arall sydd â hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad ac a gymerodd ran ynddo; ac

(ch)i unrhyw berson arall a gymerodd ran yn yr ymchwiliad ac a ofynnodd am gael ei hysbysu o'r penderfyniad.

(2Caiff unrhyw berson sydd â hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, i gael cyfle i archwilio unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw.

(3Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (2) sicrhau ei fod yn dod i law'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 6 wythnos o ddyddiad y penderfyniad.

Rhan VIAMRYWIOL

Tynnu apêl yn ôl

29.—(1Caiff yr apelydd dynnu apêl yn ôl drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i ddymuniad i wneud hynny.

(2Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n rhesymol ar ôl cael hysbysiad o dynnu apêl yn ôl, roi hysbysiad o'r ffaith honno i bob un o'r personau y rhoddwyd hysbysiad iddynt o dan reoliad 5(1).

Newid yn ffurf apêl

30.  Os yw'n ymddangos ar unrhyw adeg i'r Cynulliad Cenedlaethol ei bod yn fwy priodol fod apêl yn cael ei phenderfynu mewn dull sy'n wahanol i'r ffurf a hysbyswyd o dan reoliad 5, caiff benderfynu bod apêl i barhau mewn ffurf heblaw'r un a hysbyswyd a chaiff roi unrhyw ganllawiau canlyniadol o ran y weithdrefn sydd i'w chymhwyso mewn perthynas â'r apêl, gan gynnwys nodi unrhyw gamau y mae gofyn eu cymryd gan y partïon o dan y Rheoliadau hyn ac y bernir eu bod eisoes wedi eu cymryd ac amrywio yn ôl yr angen yr amser o fewn pryd y caiff unrhyw gam o'r fath na chymerwyd ef eisoes ei gymryd.

Gweithdrefnau pellach neu wahanol

31.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, os yw'r amgylchiadau sy'n berthnasol i'r apêl benodol yn ei gwneud yn angenrheidiol, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gamau penodedig gael eu cymryd, naill ai yn ychwanegol at y rhai a ragnodwyd gan y rheoliadau hyn neu yn eu lle, a gall estyn yr amser a ragnodwyd gan y Rheoliadau hyn, neu sy'n ofynnol fel arall o dan y Rheoliadau hyn, ar gyfer cymryd unrhyw gamau ond rhaid iddo, cyn gwneud hynny, oni chyfyngir yr effaith i estyniad amser, ymgynghori â'r apelydd a'r atebydd a chaiff ymgynghori ag unrhyw berson â diddordeb a rhaid iddo ystyried y sylwadau a wneir gan unrhyw berson yr ymgynghorir ag ef ynghylch pa mor ddymunol yw'r gofyniad hwnnw.

Hysbysiad o benodiad asesydd

32.  Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfer ei hawl o dan baragraff 4(3) o Atodlen 3 i'r Ddeddf i benodi asesydd i gynorthwyo person penodedig i benderfynu apêl, rhaid iddo hysbysu'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb o enw'r asesydd a'r materion y penodwyd yr asesydd i gynghori'r person penodedig arnynt.

Archwiliadau safle

33.—(1Caiff y person penodedig ar unrhyw adeg wneud archwiliad o'r tir heb fod yng nghwmni neb a heb roi hysbysiad o fwriad i wneud hynny i'r apelydd nac i'r atebydd.

(2Yn ystod ymchwiliad neu wrandawiad neu ar ôl i'r ymchwiliad neu'r gwrandawiad gau, o ran y person penodedig:

(a)caiff, ar ôl cyhoeddi yn ystod yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad ddyddiad ac amser y bwriedir gwneud yr archwiliad, archwilio'r tir yng nghwmni'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb; a

(b)rhaid iddo wneud archwiliad o'r fath os gofynnir iddo wneud hynny gan yr apelydd neu'r atebydd cyn neu yn ystod yr ymchwiliad neu wrandawiad.

(3Os penderfynir apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig, o ran y person penodedig:

(a)caiff, ar ôl rhoi hysbysiad rhesymol ysgrifenedig i'r apelydd ac i'r atebydd o fwriad i wneud hynny, archwilio'r tir yng nghwmni'r apelydd, yr atebydd ac unrhyw berson â diddordeb; a

(b)rhaid iddo wneud archwiliad o'r fath os gofynnir iddo gan yr apelydd neu'r atebydd cyn bod y person penodedig yn gwneud ei benderfyniad.

(4Rhaid i'r apelydd gymryd y camau hynny sy'n rhesymol o fewn gallu'r apelydd i alluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir sydd i'w archwilio.

(5Nid yw'r person penodedig yn cael ei rwymo i ohirio archwiliad o'r math y cyfeirir ato ym mharagraffau (2) neu (3) os na fydd unrhyw berson y cyfeirir atynt yn y paragraffau hynny yn bresennol ar yr amser penodedig.

Gwrandawiadau neu ymchwiliadau ar y cyd

34.  Os bydd dwy apêl neu fwy yn codi pwnc neu bynciau cyffredin neu, yn achos apelau o dan adran 6 o'r Ddeddf, yn ymwneud â'r un map dros dro, caiff y Cynulliad Cenedlaethol gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd mewn perthynas â'r apelau hynny os yw o'r farn ei bod yn ddymunol i wneud hynny ac, mewn achos o'r fath, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol arfer ei bwerau o dan reoliad 31 gyda'r bwriad o addasu darpariaethau'r Rheoliadau hyn i'r graddau hynny sy'n angenrheidiol o ganlyniad i'r penderfyniad i gynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd.

Defnyddio cyfathrebu electronig

35.—(1Caiff unrhyw ddogfen y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir iddi gael ei hanfon gan un person at un arall o dan ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn, fel dull amgen i unrhyw ddull arall, gael ei hanfon trwy gyfrwng cyfathrebu electronig, ar yr amod bod gan y person sy'n anfon y ddogfen seiliau rhesymol dros gredu y bydd y ddogfen yn dod i sylw'r person yr anfonir hi iddo, mewn ffurf ddarllenadwy, o fewn amser rhesymol.

(2Os oes gofyniad, o dan y Rheoliadau hyn, bod copi o ddatganiad, sylw, hysbysiad neu ddogfen arall yn cael ei anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yna, os anfonir y copi hwnnw mewn ffurf electronig, dylid anwybyddu unrhyw ofyniad pellach bod mwy nag un copi i gael ei anfon.

Cyhoeddi penderfyniadau ar apelau o dan adran 6 o'r Ddeddf

36.  Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, onid yw'n rhesymol anymarferol i wneud hynny, gyhoeddi ar wefan y rhyngrwyd y mae'n ei chynnal hysbysiad o bob penderfyniad a wneir o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas ag apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf a pharhau i wneud hynny hyd nes y dyroddir y map terfynol y mae'r apêl yn berthnasol iddo.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

O dan adrannau 11, 32 a 38 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”), mae'r pŵer gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud rheoliadau i ddarparu gweithdrefnau i'w dilyn wrth benderfynu apelau sy'n cael eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf.

Ar y dechrau bydd y Rheoliadau hyn yn effeithiol mewn perthynas ag apelau sy'n cael eu dwyn o dan adran 6 o'r Ddeddf (apelau gan bersonau yn erbyn dangos tir, y mae ganddynt fuddiant ynddo, ar fap dros dro fel tir agored neu dir comin cofrestredig).

Bwriedir y bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn ffurfio sail y gweithdrefnau sydd i'w defnyddio wrth benderfynu apelau eraill a gaiff eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf, gan gynnwys y rhai o dan adran 30 o'r Ddeddf (apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod os yw'r awdurdod hwnnw wedi penderfynu peidio caniatáu cais am gyfarwyddyd o dan adran 24 neu 25 o'r Ddeddf neu os yw wedi gweithredu mewn modd nad yw'n unol â'r sylwadau a wnaed o dan adran 27(5) o'r Ddeddf) a'r rhai o dan adran 38 o'r Ddeddf (apêl gan berson y rhoddwyd hysbysiad iddo gan awdurdod o dan adran 36(3) neu 37(1) o'r Ddeddf, neu apêl gan unrhyw berchennog neu feddiannydd arall o'r tir yr effeithir arno gan hysbysiad o'r fath yn erbyn caniatáu hysbysiad o'r fath).

Yn y Rheoliadau hyn:

Mae Rhan II (rheoliadau 3 i 6) yn nodi'r gweithdrefnau cychwynnol a fydd yn effeithiol p'un a benderfynir yr apêl drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig neu ar ôl gwrandawiad neu ymchwiliad lleol cyhoeddus. Mae'r gweithdrefnau cychwynnol hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r person sy'n dwyn yr apêl (“yr apelydd”), a'r person y mae ei benderfyniad wedi rhoi bodolaeth i'r apêl (“yr atebydd”), ddarparu gwybodaeth benodedig i'r Cynulliad Cenedlaethol ac maent yn ei gwneud yn ofynnol i gyhoeddi'r hsybysiadau yn y wasg leol, ac anfon yr hysbysiadau i bersonau a chyrff penodedig y mae ganddynt fuddiant mewn apelau o'r fath, gan roi gwybodaeth ynghylch yr apêl.

Mae Rhan III (rheoliadau 7 i 9) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis bod yr apêl yn cael ei phenderfynu drwy gyfnewid sylwadau ysgrifenedig. Mae'n ofynnol i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid tystiolaeth cyn i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl wneud ei benderfyniad a hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 9 o'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan IV (rheoliadau 10 i 16) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis y penderfynnir apêl ar ôl gwrandawiad. Bydd angen i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid tystiolaeth yn yr un modd ag y mae angen gan Ran III o'r Rheoliadau ac yna penodir person gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl drwy gynnal gwrandawiad. Mae'r Rheoliadau'n darparu i'r prif bartïon i'r apêl, a'r cyhoedd, gael eu hysbysu o'r dyddiad, yr amser a'r lle a drefnwyd ar gyfer y gwrandawiad a phennu'r personau fydd â hawl i fod yn bresennol, a chymryd rhan, a'r weithdrefn i'w dilyn yn y gwrandawiad. Ar ôl i'r gwrandawiad ddod i ben, bydd y person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r apêl yn gwneud ei benderfyniad ac yn hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 16 o'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan V (rheoliadau 17 i 28) yn darparu'r gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd parti i apêl wedi dewis i apêl gael ei phenderfynu ar ôl ymchwiliad lleol cyhoeddus. Pan fydd ymchwiliad i'w gynnal, mae'r Rheoliadau'n darparu i gyfarfod cyn-ymchwiliad gael ei gynnal os disgwylir i'r prif ymchwiliad bara am 8 diwrnod neu fwy neu os ystyrir bod angen cyfarfod cyn-ymchwiliad beth bynnag. Mae'n ofynnol i'r prif bartïon i'r apêl gyfnewid datganiadau achos a gall personau eraill â diddordeb hefyd gyflwyno sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r person a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal yr ymchwiliad drefnu amserlen ar gyfer yr ymchwiliad a bod hysbysiad o'r dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi. Mae'r Rheoliadau yn pennu'r personau fydd â hawl i fod yn bresennol, a chymryd rhan, mewn ymchwiliad ac yn nodi pynciau gweithdrefnol eraill mewn perthynas â chynnal yr ymchwiliad. Ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben, bydd y person a benodwyd i benderfynu'r apêl yn gwneud ei benderfyniad ac yn hysbysu'r personau a bennir yn rheoliad 28 o'r penderfyniad hwnnw.

Mae Rhan VI (rheoliadau 29 i 36) yn nodi materion amrywiol, gan gynnwys yr hawl i'r apelydd dynnu apêl yn ôl, pwerau'r Cynulliad Cenedlaethol i newid y dull y mae apêl yn cael ei chynnal, penodi person (“aseswr”) i gynorthwyo'r person a benodwyd i benderfynu apêl a chynnal gwrandawiad neu ymchwiliad ar y cyd pan fydd pynciau sy'n gyffredin i fwy nag un apêl yn cael eu dwyn o dan Ran I o'r Ddeddf, pŵer i'r person a benodwyd i benderfynu apêl i ymweld â'r tir sy'n destun yr apêl a'i archwilio, pŵer i ddefnyddio dulliau electronig o gyfathrebu gan y partïon a gofyniad bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi'r penderfyniadau a wneir mewn apelau a ddygir o dan Ran I o'r Ddeddf ar ei wefan.

(1)

2000 p.37. Mae adran 45(1) yn diffinio “regulations” yn Rhan 1 o'r Ddeddf (mewn Perthynas â Chymru) fel rheoliadau a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.