Rhan VAPELAU A BENDERFYNIR AR ÔL YMCHWILIAD CYHOEDDUS LLEOL

Dyddiad a hysbysiad yr ymchwiliad

22.—(1Rhaid i'r dyddiad a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer cynnal ymchwiliad, onid yw'n ystyried bod y dyddiad hwnnw'n anymarferol, beidio â bod yn hwyrach na:

(a)22 wythnos ar ôl y dyddiad cychwyn; neu

(b)mewn achos lle cynhelir cyfarfod cyn-ymchwiliad yn unol â rheoliad 18, 8 wythnos ar ôl i'r cyfarfod hwnnw ddod i ben.

(2Os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried ei bod yn anymarferol i bennu dyddiad yn unol â pharagraff (1), rhaid i'r dyddiad a bennir fod y dyddiad cynharaf ar ôl diwedd y cyfnod perthnasol a grybwyllir yn y paragraff hwnnw y mae'n ystyried ei fod yn ymarferol.

(3Oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cytuno ar gyfnod o hysbysiad llai gyda'r apelydd a'r atebydd, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig heb fod yn llai na 4 wythnos, o'r dyddiad, amser a'r lle a bennir ganddo i gynnal ymchwiliad i bob person y mae ganddo hawl i gymryd rhan yn yr ymchwiliad.

(4Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r dyddiad a bennir i gynnal ymchwiliad, p'un a ydyw'r dyddiad fel y'i hamrywiwyd o fewn y cyfnod perthnasol a grybwyllir ym mharagraff (1) neu beidio; a bydd paragraff (3) yn gymwys i'r dyddiad a amrywiwyd fel y mae'n gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol amrywio'r amser neu'r lle ar gyfer cynnal ymchwiliad a rhaid iddo roi hysbysiad o unrhyw amrywiad y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol.

(6Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol gymryd un neu fwy o'r camau canlynol:

(a)heb fod yn llai na 2 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer cynnal yr ymchwiliad, gyhoeddi hysbysiad o'r ymchwiliad yn un neu fwy o'r papurau newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal y lleolir y tir ynddi;

(b)anfon hysbysiad o'r ymchwiliad at y personau hynny neu'r dosbarthiadau o bersonau y gall eu pennu, o fewn y cyfnod a all bennu.

(7Rhaid i bob hysbysiad o ymchwiliad a gyhoeddir neu a anfonir yn unol â pharagraph (6),

(a)cynnwys datganiad clir o'r dyddiad, amser a lle'r ymchwiliad ac o'r pwerau sy'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i benderfynu'r cais neu'r apêl o dan sylw;

(b)cynnwys disgrifiad ysgrifenedig o'r tir sy'n ddigonol i alluogi adnabod lleoliad a hyd a lled y tir yn fras;

(c)disgrifio'n gryno destun yr apêl; ac

(ch)rhoi manylion o lle a phryd y gellir archwilio copïau o ddatganiad o achos yr atebydd ac unrhyw ddogfennau a anfonwyd gan yr atebydd ac a gopïwyd i'r atebydd yn unol â rheoliad 19.