- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
8.—(1) Yn ychwanegol at unrhyw ddogfennau a anfonwyd eisoes at y Cynulliad Cenedlaethol gan yr apelydd yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Mapiau Dros Dro (mewn achos o apêl o dan adran 6 o'r Ddeddf), a chan yr atebydd yn unol â rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn, rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 6 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach neu ddogfennau eraill y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu, os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach o'r fath neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.
(2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau yn unol â pharagraff (1), anfon copi o'r sylwadau, y dogfennau neu'r hysbysiadau hynny at yr apelydd neu'r atebydd, fel y bo'n briodol.
(3) Rhaid i'r apelydd a'r atebydd, o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ddau gopi o unrhyw sylwadau pellach, dogfennau eraill neu hysbysiadau y maent yn dymuno dibynnu arnynt, neu os nad ydynt yn dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach neu ddogfennau eraill, hysbysiad i'r perwyl hwnnw.
(4) Pan fydd sylwadau wedi'u gwneud i'r Cynulliad Cenedlaethol gan unrhyw un heblaw'r apelydd neu'r atebydd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, cyn gynted ag y mae'n ymarferol ar ôl cael y sylwadau hynny, anfon copi ohonynt at yr apelydd a'r atebydd, a rhaid iddynt, os ydynt yn dymuno cyflwyno unrhyw sylwadau ar y sylwadau hynny i'r Cynulliad Cenedlaethol, anfon dau gopi o'u sylwadau i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 9 wythnos o'r dyddiad cychwyn.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol, mewn achos penodol, wahodd yr apelydd a'r atebydd i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol ac at ei gilydd, o fewn yr amser rhesymol hwnnw y gall ei bennu, sylwadau pellach neu ddogfennau eraill y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol er mwyn galluogi'r apêl i gael ei phenderfynu.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: