Dyroddi mapiau terfynol8

1

Cymerir bod y Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswydd yn unol ag adran 9(1), (2), (3) neu (4) o'r Ddeddf (fel y digwydd) i ddyroddi map terfynol pan fydd gyntaf yn cyhoeddi hysbysiad dyroddi'r map dros dro hwnnw yn unol â pharagraff (2)(ch) o'r rheoliad hwn.

2

Nid oes hawl gan y Cyngor gyhoeddi hysbysiad dyroddi map dros dro nes ei fod:

a

wedi gwneud trefniadau ar gyfer cadw ym mhencadlys y Cyngor gopi printiedig o'r map terfynol wedi ei arnodi gyda datganiad mai ef yw'r copi o'r map terfynol a gedwir at ddibenion yr is-baragraff hwn;

b

wedi gwneud unrhyw drefniadau sydd o fewn ei bŵ er i sicrhau bod copi o'r map terfynol hwnnw, ar ffurf brintiedig ac, os yw'n bosibl, ar ffurf electronig, ar gael i'w archwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol (yn ddarostyngedig, yn achos archwilio mewn swyddfeydd heblaw swyddfeydd ei hun, i unrhyw ofyniad ar gyfer gwneud apwyntiadau i wneud hynny a fynnir gan yr awdurdod perthasol) drwy gydol y cyfnod apêl:

i

ym mhencadlys y Cyngor a swyddfa leol y Cyngor, sef y swyddfa agosaf at yr ardal y mae'r map dros dro yn ymwneud â hi heb gynnwys unrhyw swyddfa nad yw'n agored yn ystod oriau swyddfa arferol; a

ii

yn ystod y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y dyroddwyd y map terfynol arno, ym mhencadlys pob awdurdod lleol perthnasol a phob awdurdod Parc Cenedlaethol perthnasol, os o gwbl;

c

wedi anfon copi o'r map terfynol hwnnw, naill ai ar ffurf brintiedig ar raddfa nad yw'n llai nag 1:25,000 neu, os yw'r Cyngor a'r sawl sydd i'w dderbyn yn cytuno, ar ffurf electronig, ynghyd â hysbysiad sy'n cynnwys yr union wybodaeth â'r hyn y mae'n ofynnol ei gynnwys yn hysbysiad dyroddi'r map terfynol, i bob un o'r cyrff a bennir yn Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac at unrhyw bersonau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;

ch

wedi cyhoeddi'r hysbysiad dyroddi'r map terfynol hwnnw, sy'n cydymffurfio â gofynion paragraff (3), mewn o leiaf un papur newydd dyddiol sy'n cylchredeg drwy'r rhan gyfan honno o Gymru sy'n cynnwys yr ardal y mae'r map terfynol hwnnw yn ymwneud â hi ac unrhyw bapurau newydd neu gyhoeddiadau eraill y mae'n barnu eu bod yn briodol;

d

wedi anfon copi o hysbysiad dyroddi'r map terfynol hwnnw i bob un o'r llyfrgelloedd cyhoeddus a restrir yn Atodlen 2, gyda chais iddo gael ei arddangos i'r cyhoedd yn y llyfrgell honno;

dd

wedi anfon at y Cynulliad Cenedlaethol gopi o'r map terfynol (neu os nad yw yn cael ei anfon drwy ddull electronig, ddau gopi) ynghyd â chopi o'r hysbysiad dyroddi sy'n ymwneud ag ef.

3

Rhaid i hysbysiad dyroddi map terfynol:

a

nodi'r ardal y mae'r map terfynol yn ymwneud â hi;

b

datgan mai effaith y map terfynol yw dangos y darnau o dir adran 4(2) y bydd gan y cyhoedd y gallu i ymarfer yr hawl mynediad o dan adran 2 o'r Ddeddf, pan ddaw'r adran honno i rym, mewn perthynas â hwy, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r cyfyngiadau y mae'r Ddeddf yn darparu ar eu cyfer;

c

rhoi manylion am sut y gall aelodau o'r cyhoedd archwilio copi o'r map terfynol a datgan mai trwy wneud apwyntiad o flaen llaw yn unig y gallant wneud hynny petaent yn dymuno gwneud hynny ar ôl diwedd y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y dyddiad y dyroddwyd y map terfynol arno;

ch

datgan y gall unrhyw berson, trwy gais ysgrifenedig at y Cyngor, fynnu i'r Cyngor ddarparu ar gyfer y person hwnnw un copi o'r map terfynol neu o ddarn o'r map terfynol sy'n ymwneud â rhan penodedig o'r map y mae'r cais yn ymwneud ag ef, sef copi neu gopïau y mae'n rhaid iddynt fod ar ffurf brintiedig neu, os yw'r Cyngor a'r person hwnnw yn cytuno, ar ffurf electronig;

d

datgan bod dyletswydd y Cyngor i ddarparu copi o'r dogfennau a gyfeirir atynt yn is-baragraff (ch) yn ddyletswydd:

i

yn achos cais ysgrifenedig gan berson sydd â buddiant mewn unrhyw dir a ddangosir ar y map terfynol fel tir adran 4(2), lle bo'r cais hwnnw yn nodi natur y buddiant hwnnw a'r tir y mae'n ymwneud ag ef, ac ar yr amod na wnaed cais blaenorol gan y person hwnnw, i ddarparu un copi o'r map neu ddarn ohono yn rhad ac am ddim; a

ii

ym mhob achos arall, i ddarparu copi felly ar ôl derbyn tâl o ba bynnag ffi y mae'r Cyngor yn hawlio'n rhesymol;

dd

datgan y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw gais o dan is-baragraff (ch) iddo;

e

datgan y dyddiad y dyroddwyd y map terfynol arNo.

4

Gall unrhyw hysbysiad sy'n cael ei gyhoeddi yn unol â pharagraff (2)(ch) neu sy'n cael ei anfon yn unol â pharagraff (2)(d), yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth y mae'n ofynnol ei chynnwys o dan baragraff (3), gynnwys unrhyw wybodaeth bellach y gŵ el y Cyngor yn dda.