2.—(1) Diwygir Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(1) yn unol â pharagraff canlynol y Rheoliad hwn.
(2) Yn Atodlen 10 (cyffuriau a sylweddau eraill nad ydynt i'w rhagnodi i'w cyflenwi o dan wasanaethau fferyllol):—
(a)mewnosodwch y cofnodion canlynol yn y fath fannau priodol a fydd yn sicrhau bod yr holl gofnodion yn ôl trefn yr wyddor—
“Boots Glucomsamine Capsules 400 mg
Glucosamine Sulphate Tablets 600mg
Health Aid Glucosamine Sulphate Tablets 500mg
Solgar Glucosamine Sulphate Tablets
Vega Glucosamine Capsules 400 mg” a
(b)hepgorwch y cofnodion canlynol—
“Cow and Gate Nutriprem 2
Farley’s Premcare”.
O.S. 1992/635; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/2412, 1993/2421, 1994/2620, 1997/981, 2000/1887 (Cy.133) a 2001/1788 (Cy.129).