Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 (“y prif Orchymyn”) er mwyn gweithredu elfennau penodol o Gyfarwyddebau'r Comisiwn 2002/29/EC (OJ Rhif L77, 20.3.02, t. 26) a 2002/28/EC (OJ Rhif L77, 20.3.02, t. 23) yng Nghymru nad ydynt yn cael eu gweithredu mewn deddfwriaeth arall. Mae Cyfarwyddeb 2002/29/EC yn diwygio'r parthau gwarchod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC (OJ Rhif L169, 10.7.2000, t.1) (“y brif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion”) ac a amserlennwyd yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif. L127, 9.5.2001, t. 38). Mae Cyfarwyddeb 2002/28/EC yn darparu ar gyfer diwygiadau canlyniadol i Atodiadau penodol o'r brif Gyfarwyddeb Iechyd Planhigion.

Mae'r diwygiadau yn y Gorchymyn hwn sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2002/28/EC yn erthygl 2(3) i 2(6) yn gynhwysol. Gweithredir Cyfarwyddeb 2002/29/EC gan erthygl 2(7), sy'n diwygio Atodlen 8 i'r prif Orchymyn. Y prif newidiadau i'r parthau gwarchod yw tynnu Prydain Fawr o'r parth gwarchod mewn perthynas â Feirws necrotig gwythïen felen betys (sy'n hysbys fel rhizomania) (erthygl 2(3), (6)(a) a (c) a (7)(b)(i)), ac ailddiffiniad o barthau gwarchod yr Eidal ac Awstria mewn perthynas â'r bacteriwm Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al (sy'n hysbys fel malltod) (erthygl 2(4), (5), (6)(b) a (7)(a)). Diwygir y disgrifiad o Citrus tristeza virus yn Atodlen 8 (erthygl 2(7)(b)(ii)).

Gwneir diwygiad ychwanegol i'r diffiniad o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC yn erthygl 2(1) o'r prif Orchymyn er mwyn ymgorffori'r diwygiadau a wnaed iddi gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/28/EC (erthygl 2(2)).

Gellir cael arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r newidiadau i'r parth gwarchod o ran Feirws necrotig gwythïen felen betys o'r Gangen Iechyd Planhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.