http://www.legislation.gov.uk/wsi/2002/1806/regulation/1/made/welsh
Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002
Local Government
cy
King's Printer of Acts of Parliament
2015-09-03
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2002, yn diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001 (“y prif Reoliadau”) drwy:ailddatgan a diwygio'r meini prawf i geiswyr fod yn gymwys i dderbyn taliad o dan y cynllun er mwyn i geisiwyr fod yn gymwys i dderbyn taliadau os oes ganddynt dir porthiant yn naill ai Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon (“tiriogaeth trawsffiniol”) sef tir sy'n caniatáu i'r ceisydd hwnnw yr hawl i lwfans ar gyfer ardal llai ffafriol yn y diriogaeth drawsffiniol honno, er bod gan y ceiswyr hynny lai na'r lleiafswm gofynnol o 6 hectar o dir porthiant cymwys yng Nghymru (rheoliad 5).ailfformiwleiddio ac ailddatgan y darpariaethau sy'n ymwneud â gostyngiad yn y tir porthiant pan fydd gan geiswyr swmp cyfeiriol unigol o laeth ar gael (rheoliad 6).rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i amrywio'r lleiafswm o ofynion dwysedd stocio o dan y cynllun o dan amgylchiadau penodol (Rheoliad 7).darparu ar gyfer cynyddu taliadau sylfaenol o dan y cynllun ac sy'n daladwy gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 8).darparu bod y taliadau chwyddo amgylcheddol y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3) o Reoliad 7 o'r prif Reoliadau yn daladwy yn y drefn honno mewn symiau sy'n gyfystyr â hyd at 10% a i 20% o daliadau elfen 1 (rheoliad 9).darparu bod y cosbau IACS mewn perthynas â chyflwyno yn hwyr yn cael eu gweithredu mewn perthynas â cheisiadau am daliadau sy'n cael eu gwneud yn hwyr o dan y cynllun (rheoliad 12).darparu bod llog ar daliadau nad ydynt yn daladwy ac y gellir eu hadennill gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w gyfrifo o'r dyddiad y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn hysbysu'r ceisydd nad oedd y swm a dalwyd yn daladwy (rheoliad 16).darparu fformwla “rhwyd achub” newydd mewn perthynas â chyfrifio taliadau Tir Mynydd ym mlwyddyn 2003 (rheoliad 18(b)).darparu ar gyfer gwneud mân newidiadau a newidiadau i'r diffiniadau sy'n dilyn yn sgil y diwygiadau uchod.
Enw a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) (Diwygio) 2002 a deuant i rym ar 10 Gorffennaf 2002.