xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001

5.  Rhowch y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3 (Ceiswyr cymwys)—

Ceiswyr cymwys

3.(1) Bydd ceiswyr yn gymwys i gael taliad Tir Mynydd mewn perthynas â blwyddyn gynllun ar yr amod bod—

(a)cais am daliad wedi'i wneud mewn perthynas â'r flwyddyn gynllun honno drwy gais am gymorth arwynebedd dilys a bod yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano, os o gwbl, yn cydymffurfio ag un o'r amodau a bennir ym mharagraff (2); a

(b)y ceisydd wedi cyflwyno cais am gymorth da byw mewn perthynas â defaid neu fuchod sugno neu'r ddau ohonynt mewn perthynas â'r flwyddyn y cyflwynwyd cais yn ei chylch am daliad Tir Mynydd; ac

(c)y ceisydd wedi defnyddio arferion ffermio da arferol sy'n cyd-fynd â'r angen i ddiogelu'r amgylchedd a chynnal cefn gwlad, yn benodol drwy ffermio cynaliadwy; a

(ch)y ceisydd wedi rhoi ymrwymiad ysgrifenedig y bydd yn ffermio o leiaf 3 hectar o dir sydd naill ai'n dir cymwys neu'n dir llai ffafriol sy'n perthyn a pharhau i wneud hynny am gyfnod o 5 mlynedd o ddyddiad y taliad iawndal cyntaf ac nad yw'r ceisydd hwnnw'n torri'r ymrwymiad hwnnw ar ddyddiad y taliad.

(2) Y canlynol yw'r amodau—

(a)bod nid llai na 6 hectar o'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano o fewn y tir llai ffafriol; neu

(b)os nad yw'r arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano sy'n gorwedd o fewn y tir llai ffafriol yn llai na 1 hectar ond yn llai na 6 hectar, mae cyfanswm yr arwynebedd porthiant y gwneir cais amdano yn cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn tir llai ffafriol sy'n perthyn ac sy'n gymwys i gael lwfans tir llai ffafriol sy'n perthyn..