Diwygio Rheoliadau Tir Mynydd (Cymru) 2001

7.  Mewnosodwch y paragraffau canlynol yn rheoliad 4 (Y dwysedd stocio isaf), ar ôl paragraff (2)—

(3) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu bod dwysedd stocio o lai na 0.1 yn ddigonol at ddibenion paragraff (1) os yw wedi'i fodloni'n rhesymol ei bod yn addas gwneud hynny o ystyried holl amgylchiadau'r achos, ac o ddwyn i ystyriaeth, yn benodol, nifer y mamogiaid a/neu fuchod sugno nad ydynt yn destun cais am bremiwm o dan Gynllun Premiwm Blynyddol Defaid a/neu Gynllun Premiwm Buchod Sugno, ac unrhyw rwymedigaeth ar ran y ceisydd yngylch y nifer o famogiaid a/neu fuchod sugno y ceir eu cadw ar y tir sy'n cynnwys y tir cymwys, mewn perthynas â'r flwyddyn y mae'r cais am daliad Tir Mynydd yn cael ei gyflwyno ynddi.

(4) Er mwyn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i ystyried a ddylai arfer ei ddisgresiwn o dan baragraff (3), rhaid i'r ceisydd ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol y fath wybodaeth y gall yn rhesymol ei fynnu..