Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 484 o Ddeddf Addysg 1996 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) i wneud rheoliadau sy'n darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol at ddibenion neu yng nghyswllt dibenion addysgol yr ymddengys i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai'r awdurdodau gael eu hannog i fynd iddynt er budd addysg yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu'r cyfryw grant.

Mae Rheoliad 3 yn darparu nad yw grant yn daladwy ond mewn perthynas â'r diben a bennir yn yr Atodlen, a dim ond i'r graddau y cymeradwyir y gwariant gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliad 4 yn darparu ar gyfer talu grant mewn perthynas â gwariant yr aed iddo neu yr eir iddo gan awdurdodau addysg lleol wrth dalu i drydydd partïon ac a fyddai'n gymwys ar gyfer grant petai'n wariant gan yr awdurdod.

Mae Rheoliad 5 yn darparu bod grant yn daladwy ar gyfradd o 100%.

Mae Rheoliadau 6 i 8 yn nodi'r amodau sy'n gymwys mewn perthynas â thalu grant, gan gynnwys gofynion archwilio. Mae Rheoliad 9 yn nodi nifer o ofynion eraill y mae'n rhaid i'r awdurdodau addysg lleol, y gwnaed y taliadau grant iddynt, gydymffurfio â hwy. Mae Rheoliad 10 yn caniatáu i'r Cynulliad Cenedlaethol osod gofynion ychwanegol.

Mae'r Atodlen yn nodi at ba ddiben neu yng nghyswllt pa ddiben y ceir talu grant, sef i wneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol yng nghyswllt y cynllun a sefydlwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o'r enw Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad. O dan y Cynllun caiff awdurdodau addysg lleol dalu dyfarndaliadau i bobl sy'n dilyn cyrsiau addysg bellach neu addysg uwch ac a ddynodwyd at ddibenion y Cynllun, ac sy'n bodloni'r amodau o ran adnoddau ariannol a meini prawf cymhwyster eraill y Cynllun. Diben y Cynllun yw galluogi pobl sy'n brin eu hadnoddau ariannol i gymryd mantais o gyfleoedd addysgol sydd ar gael iddynt, drwy leihau caledi ariannol.