ATODLENY DIBEN Y MAE GRANT YN DALADWY AR EI GYFER NEU MEWN CYSYLLTIAD AG EF

Rheoliadau 2, 3 a 7

Gwneud dyfarndaliadau addysg ôl-orfodol o'r enw Grantiau Dysgu'r Cynulliad o dan Reoliadau Awdurdodau Llywodraeth Leol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol)(Cymru) 2002 i bersonau—

a

sy'n dilyn cwrs o addysg bellach neu addysg uwch a ddynodwyd at ddibenion Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad,

b

nad yw eu hadnoddau ariannol, fel y'u haseswyd yn unol â darpariaethau'r Cynllun hwnnw, yn uwch na lefel yr adnoddau ariannol a bennir yn yr amodau cymhwyster ar gyfer y Cynllun hwnnw, ac

c

sy'n bodloni amodau cymhwyster eraill (os oes rhai) ar gyfer y Cynllun hwnnw,

mewn perthynas â'u costau byw a chostau eraill (ond gan eithrio costau sy'n cynnwys cost ffioedd mewn perthynas â neu yng nghyswllt cyrsiau).