Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac mae'n dod i rym ar 1 Awst 2002.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “Gorchymyn 1995” yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995(1) ac mae unrhyw gyfeiriad at Ran 24 yn gyfeiriad at y rhan o Atodlen 2 i Orchymyn 1995 sy'n dwyn y rhif hwnnw.

Diwygiadau i Ran 24: Datblygu gan weithredwyr systemau cod telathrebu

3.  Yn lle Rhan 24 rhowch y testun a geir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Diddymu a darpariaethau trosiannol

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), diddymir drwy hyn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) 1998(2) ac erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio) 1999(3), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(2Nid yw'r diwygiadau sy'n cael eu gwneud i Orchymyn 1995 gan y Gorchymyn hwn yn gymwys ar gyfer ceisiadau am ddyfarniad ynghylch a yw'n ofynnol i gael cymeradwyaeth o flaen llaw gan yr awdurdod cynllunio lleol am leoliad ac ymddangosiad datblygiad a wnaed cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002