(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“y prif Reoliadau”), sy'n rheoleiddio'r amodau y mae ymarferwyr meddygol offthalmig neu optegwyr yn darparu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (“Deddf 1977”) er mwyn gweithredu rhai darpariaethau yn Neddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2002.

Mae rheoliad 2 yn ychwanegu rhai diffiniadau ychwanegol i reoliad 2 y prif Reoliadau.

Mae rheoliad 3 yn mewnosod rheoliadau 7A i 7D newydd.

  • Mae rheoliad 7A yn nodi'r seiliau y gall, neu y mae'n rhaid i Awdurdod Iechyd wrthod cynnwys ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd ar y rhestr offthalmig, a'r meini prawf y mae'n rhaid iddynt eu parchu.

  • Mae rheoliad 7B yn nodi'r amylchiadau pan y gall Awdurdod Iechyd ohirio ystyried cais i gynnwys enw ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd ar y rhestr offthalmig, a'r drefn sydd i'w dilyn.

  • Mae rheoliad 7C yn darparu ar gyfer apelio i'r FHSAA yn erbyn penderfyniad i wrthod cynnwys enw ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd.

  • Mae rheoliad 7D yn caniatáu i Awdurdodau Iechyd osod amodau ar ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd wrth gynnwys yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn y rhestr feddygol. Gall yr Awdurdod Iechyd adolygu amodau o'r fath ac mae modd apelio i'r FHSAA. Gall yr Awdurdod Iechyd dynnu enw'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd am dor-amod.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau er mwyn nodi'r amgylchiadau ychwanegol pan na all ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd dynnu eu henwau oddi ar y rhestr offthalmig, heb ganiatâd y Cynulliad Cenedlaethol.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 9 o'r prif Reoliadau er mwyn ychwanegu rhesymau ychwanegol ar gyfer tynnu'n orfodol ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd oddi ar y rhestr.

Mae rheoliad 6 yn ychwanegu rheoliadau 9A i 9H newydd er mwyn rhoi effaith i adrannau 49F i 49R o'r Ddeddf.

  • Mae rheoliad 9A yn ymestyn y diffiniad o “health scheme” yn adran 49(8) o'r Ddeddf.

  • Mae rheoliad 9B yn nodi'r meini prawf y mae'n rhaid i'r Awdurdod Iechyd eu cymryd i ystyriaeth tra'n arfer ei bwerau dewisol i dynnu enw o dan adran 49F o'r Ddeddf.

  • Mae rheoliad 9C yn nodi'r rhesymau sy'n galluogi'r Awdurdod Iechyd i dynnu'n orfodol ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd oddi ar y rhestr offthalmig.

  • Mae rheoliad 9D yn gwneud darpariaeth i Awdurdod Iechyd hysbysu personau a nodwyd am wybodaeth a nodwyd ynghylch penderfyniadau i dynnu neu atal dros dro ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd oddi ar y rhestr feddygol.

  • Mae rheoliad 9E yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd wrth dynnu ymarferyrdd meddygol offthalmig neu optegydd oddi ar y rhestr feddygol.

  • Mae rheoliad 9F yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd pan fo ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr offthalmig.

  • Mae rheoliad 9G yn darparu'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan Awdurdodau Iechyd pan fo'r Awdurdod Iechyd yn penderfynu adolygu penderfyniad i gynnwys yn amodol, i dynnu yn amodol, neu atal dros dro ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd oddi ar y rhestr offthalmig.

  • Mae rheoliad 9H yn diwygio'r cyfnod statudol ar gyfer adolygu a nodwyd yn adran 49N o'r Ddeddf o dan amgylchiadau penodol.

Mae rheoliad 6 yn amnewid rheoliad 12A newydd yn y prif Reoliadau am fod y pŵer y mae'n ddibynnol arno, sef adran 49E o'r Ddeddf wedi'i diddymu yn y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Atodlen 5, paragraff 5. Yn hytrach gwneir darpariaethau newydd ar gyfer talu ymarferwyr sydd wedi'u hatal dros dro.

Mae rheoliad 6 hefyd yn mewnosod rheoliad 12B newydd yn y prif Reoliadau. Mae hwn yn ei gwneud hi'n ofynnol i ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd hysbysu Awdurdod Iechyd os yw'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn gwneud cais i gael ei gynnwys ar restr Awdurdod Iechyd arall.

Mae rheoliad 7 yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau (amodau gwasanaeth Ymarferwyr Cyffredinol).

  • Ychwanegir gofyniad newydd ym mharagraff 6A er mwyn ei gwneud hi'n ofynnol i ymarferwyr offthalmig cyffredinol neu optegydd hysbysu'r Awdurdod Iechyd yn ysgrifenedig ynghylch p'un a oes gan yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd, neu gwmni y mae'r ymarferydd meddygol cyffredinol neu optegydd yn gyfarwyddwr ohono, unrhyw euogfarnau troseddol neu faterion eraill a bennwyd erbyn 31 Hydref 2002, ac i adrodd am unrhyw ddigwyddiadau dilynol o'r natur hwn o fewn 7 diwrnod.

  • Mae paragraff 6B yn ei gwneud hi'n ofynnol i ymarferydd offthalmig neu optegydd ar restr offthalmig yr Awdurdod Iechyd i'w hysbysu os yw'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd, neu gwmni y mae'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn gyfarwyddwr arno, yn gwneud cais i ymuno â rhestr arall, neu os yw'r ymarferydd meddygol offthalmig neu'r optegydd yn dod yn gyfarwyddwr cwmni sy'n cael ei gynnwys felly, neu'n gwneud cais i gael ei gynnwys felly.

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu Atodlen 1A i'r prif Reoliadau (gwybodaeth ac ymgymeriadau sydd i'w rhoi wrth wneud cais i gynnwys enw ar y rhestr offthalmig). Mae hyn yn darparu ar gyfer darparu gwybodaeth benodedig. Mae angen ymgymeriad y bydd yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd yn hysbysu'r Awdurdod Iechyd am unrhyw newidiadau i'r wybodaeth a ddarparwyd gyda'r cais, ac i barhau i gyflenwi gwybodaeth ragnodedig i'r Awdurdod Iechyd unwaith y byddant wedi'u cynnwys. Mae angen hefyd i'r ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd gydsynio i gais gan yr Awdurdod Iechyd yn gofyn i gorff rheoliadol yr ymarferydd meddygol offthalmig neu optegydd i roi gwybodaeth benodedig i'r Awdurdod Iechyd.