Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau Wedi'u Cymeradwyo) 1990 yn cynnwys rhestr o'r buddsoddiadau a gymeradwyir at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 66(1)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19891 sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru2: