Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 1884 (Cy.193)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

18 Gorffennaf 2002

Yn dod i rym

1 Medi 2002

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Medi 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990

2.—(1Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau wedi'u Cymeradwyo) 1990(3) fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 1(2) (dehongli)—

(a)ar ôl y diffiniad o “bill of exchange”, rhoddir—

“competent authority” means an authority which is responsible for maintaining the official list in an EEA State;;

(b)ar ôl y diffiniad o “deposit-taker”, rhoddir—

(c)ar ôl y diffiniad o “money market fund”, rhoddir—

(3Yn rheoliad 2(1)—

(a)ym mharagraff (g), yn lle “Official List of The Stock Exchange” rhoddir “official list maintained by a competent authority”; a

(b)ym mharagraff (h), yn lle “Official List of the Stock Exchange” rhoddir “official list maintained by the competent authority in the United Kingdom”.

(4Yn rheoliad 3, ym mharagraff (3)—

(a)yn is-baragraff (b), yn lle “made; and” rhoddir “made.”; a

(b)hepgorir is-baragraff (c).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf) (Buddsoddiadau Wedi'u Cymeradwyo) 1990 yn cynnwys rhestr o'r buddsoddiadau a gymeradwyir at ddibenion Rhan IV o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1990 drwy ymestyn y rhestr o fuddsoddiadau a gymeradwywyd fel ei bod yn cynnwys gwarantau a roddir gan gorff y cyfeirir ato yn Rhan I o'r Atodlen i Reoliadau 1990 sydd wedi cael eu derbyn i'r rhestr swyddogol a gedwir gan yr awdurdodau cymwys yn Aelod-wladwriaethau eraill yr Ardal Economaidd Ewrop.

Yn ogystal, mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r gwahaniaeth mewn perthynas â buddsoddiadau tymor-byr rhwng yr awdurdodau hynny y mae ganddynt dyledion tymor-hwy a'r rhai nad oes ganddynt ddyledion felly.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1990/426; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/501, 2001/3649 a 2002/ 885 (Cy. 100).