Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2002

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • nid yw “awdurdod bwyd” (“food authority”) yn cynnwys awdurdod iechyd porthladd;

  • ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer ardal iechyd porthladd a gyfansoddwyd o dan adran 2(4) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Afiechydon) 1984(1) ac, mewn perthynas ag awdurdod iechyd porthladd ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson (p'un a ydyw yn swyddog yn yr awdurdod ai peidio) sydd wedi cael ei awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod i weithredu mewn materion sy'n deillio o dan y Rheoliadau hyn;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 85/591/EEC” (“Directive 85/591/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/591/EEC sy'n ymwneud â chyflwyno dulliau'r Gymuned o samplo a dadansoddi ar gyfer monitro bwydydd a fwriadwyd i bobl eu bwyta(2);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 93/99/EEC” (“Directive 93/99/EEC”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 93/99/EEC ar y math o fesurau ychwanegol sy'n ymwneud â rheolaeth swyddogol bwydydd(3);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 98/53/EC” (“Directive 98/53/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 98/53/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol y lefelau ar gyfer halogion penodedig mewn bwydydd(4)) fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/27/EC(5);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2001/22/EEC” (“Directive 2001/22/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/22/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol lefelau plwm, cadmiwm, mercwri a 3-MPCD mewn bwydydd(6)), fel y cawsant eu cywiro gan Benderfyniad y Comisiwn 2001/873/EC(7);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 2002/26/EC” (“Directive 2002/26/EC”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/26/EC sy'n gosod y dulliau samplo a'r dulliau dadansoddi ar gyfer rheolaeth swyddogol y lefelau o Ochratoxin A mewn bwydydd(8);

  • ystyr “Cytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area Agreement”) yw Cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992 fel y cafodd ei addasu gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993;

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

  • ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n nodi'r lefelau uchaf ar gyfer halogion penodedig mewn bwydydd(9) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 221/2002(10), Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 257/2002(11), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 472/2002(12)) fel y cafodd ei gywiro gan gywiriad a gyhoeddwyd ar 23 Mawrth 2002(13) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 563/2002(14)) Fel y'i Cywiriwyd gan gorigendum a gyhoeddwyd ar 14 Mehefin 2002(15);

  • ystyr “Rheoliad 2375/2001/EC” (“Regulation 2375/2001/EC”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2375/2001 sy'n diwygio Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 466/2001 sy'n nodi'r lefelau uchaf ar gyfer rhai halogion penodol mewn bwydydd(16); ac

  • ystyr “Talaith Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area State”) yw Talaith sy'n Gytundebwr i Gytundeb Ardal Economaidd Ewropeaidd;

(2Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rheoliad y Comisiwn.

(2)

OJ Rhif L372, 31.12.85, p.50.

(3)

OJ Rhif L290, 24.11.93, p.14.

(4)

OJ Rhif L201, 17.7.1998, p.93.

(5)

OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.44.

(6)

OJ Rhif L77, 16.3.2001, p.14.

(7)

OJ Rhif L325, 8.12.2001, p.34.

(8)

OJ Rhif L75, 16.3.2002, t.38.)

(9)

OJ Rhif L77, 16.3.2001, p.1.

(10)

OJ Rhif L37, 7.2.2002, p.4.

(11)

OJ Rhif L41, 13.2.2002, p.12.

(12)

OJ Rhif L75, 16.3.2002, t. 18.

(13)

OJ Rhif L80, 23.3.2002, t.42.

(14)

OJ Rhif L86, 3.4.2002, t.5.

(15)

OJ Rhif L155, 14.06.2002, t.63.

(16)

OJ Rhif L321, 6.12.2001, t.1.