17. Bydd unrhyw daliad sy'n lwfans teithio, lwfans cynhaliaeth neu lwfans colled ariannol i aelod panel apêl a luniwyd o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(1) yn cael ei dalu gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y llunnir y panel mewn perthynas â hwy.