xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002 a deuant i rym ar 26 Awst 2002.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) 1992(1).

(3Caiff y prif Reoliadau eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y Rheoliadau hyn.

(4Mae pob cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 oni nodir yn wahanol.

(5Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn i Gymru yn unig.