Dehongli
2. Yn y Rheoliadau hyn—
mae gan “gwasanaeth lleol” yr un ystyr ag sydd gan “local service” yn adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985(1);
ystyr “gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr” (“public passenger transport services”) yw'r holl wasanaethau hynny y mae aelodau o'r cyhoedd yn dibynnu arnynt er mwyn symud o le i le, pan nad ydynt yn dibynnu ar eu cyfleusterau preifat eu hunain;
mae gan “man aros” yr un ystyr â “stopping place” yn adran 137(1) o Ddeddf Trafnidiaeth 1985;
mae gan “person anabl” yr un ystyr â “disabled person” yn adran 1 o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(2).
(1)
(2)