xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2024 (Cy.208) (C.65)

TRAFNIDIAETH, CYMRU

Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

31 Gorffennaf 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 275(2) o Ddeddf Trafnidiaeth 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Trafnidiaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2002.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar 14 Awst 2002

2.  Mae'r darpariaethau canlynol o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 yn dod i rym ar 14 Awst 2002 mewn perthynas â Chymru, sef—

(a)adran 154(6)

(b)adran 274 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau yn Rhan II o Atodlen 31 (Diddymiadau a dirymiadau).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

31 Gorffennaf 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym rai ddarpariaethau penodol yn Rhan II o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (“y Ddeddf”) ar 14 Awst 2002, mewn perthynas â Chymru, sef:

(a)adran 154(6), sy'n darparu bod adran 92 o Ddeddf Cyllid 1965 (grantiau at dreth a godir ar danwydd bysiau) ac adran 111 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (gwasanaethau lleol anghofrestredig ac annibynadwy: gostyngiad mewn grant treth danwydd) i beidio â chael effaith; ac

(b)adran 274 (i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan II o Atodlen 31 (Diddymiadau a dirymiadau).

Nodyn Orchymyn Cychwyn Blaenorol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau rhannau II and III (ac Atodlenni perthnasol) o'r Ddeddf (y mae pwerau i'w dwyn i rym, mewn perthynas â Chymru, wedi'u rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, gan adran 275 o'r Ddeddf) y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi eu dwyn i rym mewn perthynas â Chymru gan Orchmynion Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn.

Adran neu AtodlenDyddiad cychwynRhif O.S.
108 i 1231 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
124 (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
128(4)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
130(8)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
131(2), (3) a (4)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
132(6)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
1331 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
1341 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
135 i 1441 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
145(1), (2) a (3)1 Ebrill 20022001/2788 (Cy.238)
145 (4) i (8)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
146 i 1501 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
1521 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
153 (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
154(1) i (5)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
155 i 1601 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
161 (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
161 (i'r graddau nad yw eisioes mewn grym)1 Ebrill 20022001/2788 (Cy.238)
1621 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
163 (ac eithrio (2)(b)) (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
163(2)(b)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
164 i 167 (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
168 (ac eithrio (3)) (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
168(3)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
169 i 171 (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
172 (ac eithrio (1)) (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
172(1)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
173 (ac eithrio (1) i (4)) (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
173(1) i (4)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
174 (ac eithrio (1), (2) a (5)) (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
174(1), (2) a (5)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
175 (ac eithrio (1)) (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
175(1)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
176 (ac eithrio (2)) (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
176(2)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
177 i 200 (yn rhannol)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
Atodlen 10 (ac eithrio paragraff 1(1)(a) a (2)(a) a'r geiriau “a quality partnership scheme or” ym mharagraff 12(2)1 Awst 20012001/2788 (Cy.238)
Atodlen 111 Awst 2001 (yn rhannol) ac 1 Ebrill 2002 (y gweddill)2001/2788 (Cy.238)

Gorchmynion cychwyn sy'n ymwneud â darpariaethau eraill o'r Ddeddf a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol yw: O.S. 2000/3376, 2001/57, 2001/242, 2001/658, 2001/869, 2001/1498, 2001/3342, 2001/2788, 2001/3229 a 2002/1014.