xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Wedi'i wneud
31 Gorffennaf 2002
Yn dod i rym
1 Awst 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a hwythau'n gweithredu ar y cyd wrth arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1,7 ac 8 o Ddeddf Iechyd Anifeilaid 1981(1), yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2002; mae'n gymwys i Gymru yn unig a daw i rym ar 1 Awst 2002.
2.—(1) Diwygir Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (2) yn unol â darpariaethau canlynol yr erthygl hon.
(2) Yn erthygl 2—
(a)cyn y diffiniad o “crynhoad anifeiliaid”, mewnosodir y diffiniad canlynol—
“ystyr “anifeiliaid” (“animals”) yw gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch;”.
(b)cyny diffiniad o “diheintydd a gymeradwywyd”, ychwanegir y diffiniad canlynol—
“mae “cyfarpar” (“equipment”) yn cynnwys corlannau a chlwydi;”.
(3) Yn yr Atodlen—
(a)ym mharagraffau 1 a 2, ym mhob man y ceir y geiriau “28 diwrnod”, rhoddir y geiriau “27 diwrnod” fel y bo'n briodol;
(b)ym mharagraff 1(b) yn lle'r geiriau “ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall” rhoddir y geiriau “ar yr holl gyfarpar”; ac
(c)ym mharagraff 4, dilëir y geiriau “corlannau, clwydi ac” ac “arall”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 31 Gorffennaf 2002
D. Elis-Thomas
Y Llywydd
Llofnodwyd ar 31 Gorffennaf 2002
Whitty
Yr Is-Ysgrifennydd Seneddol
Adran yr Amgylchedd,
Bwyd a Materion Gwledig
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio ymhellach Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 (O.S. 2002/283(Cy.34)(“y prif Orchymyn”) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 (Cy.134).
Mae'r Gorchymyn hwn—
(a)yn cyfyngu'r categorïau o anifeiliaid y mae'r prif Orchymyn yn gymwys iddynt i gynnwys gwartheg (ac eithrio buail a iacod), ceirw, geifr, defaid a moch yn unig.
(b)yn diffinio “cyfarpar” at ddibenion y prif Orchymyn ac yn diwygio'r cyfeiriadau at “corlannau, clwydi a chyfarpar arall” yn unol â hynny.
(c)yn lleihau'r cyfnodau cyfyngedig o 28 diwrnod i 27 diwrnod.
Nid oes arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Gorchymyn hwn.
1981 p.22. Gweler adran 86(1) i gael y diffiniadau o “the Ministers” a “the Minister”. Mewn perthynas â Chymru, trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672); ac i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan Ysgrifennydd Gwladol yr Alban fe'u trosglwyddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Amaethyddiaeth a Bwyd) 1999 (O.S. 1999/3141). Trosglwyddwyd ymhellach wedyn bob un o swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (Diddymu) 2002 (O.S. 2002/794).
O.S.2002/283 (Cy.34), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/1358 (Cy.134).