Tramgwydd cyflawni prosiect heb benderfyniad o dan y Rheoliadau hyn19.

Bydd unrhyw berson sy'n dechrau neu'n cyflawni prosiect heb sicrhau yn gyntaf naill ai benderfyniad nad yw'r prosiect yn brosiect perthnasol neu benderfyniad yn rhoi caniatâd ar gyfer y prosiect yn unol â'r Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.