Cynnydd cyffredinol mewn ffioedd2
1
Mae Rheoliadau 1989, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau'r Rheoliad hwn.
2
Yn rheoliad 10A o Reoliadau 19894—
a
ym mharagraff (5)(b), yn lle “£95” rhoddwch “£110”; a
b
ym mharagraff (6), yn lle “£190” rhoddwch “£220” ac yn lle “£9,500” rhoddwch “£11,000.”
3
Yn rheoliad 11A o Reoliadau 19895—
a
ym mharagraff (1)(a), yn lle “£35” rhoddwch “£40”; a
b
ym mharagraff (1)(b), yn lle £190”rhoddwch “£220”.
4
Yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau 1989—
a
ym mharagraffau 4(1) a 6(2), yn lle “£190” rhoddwch “£220”;
c
ym mharagraff 15(2), yn lle “£190”, rhoddwch “£220” ac yn lle “£4,750” rhoddwch “£5,500”.
5
Yn lle Rhan II o Atodlen 1 i Reoliadau 1989 (graddfeydd ffioedd), rhoddwch y Rhan II newydd a bennir gan Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
6
Yn lle Atodlen 2 i Reoliadau 1989 (graddfeydd ffioedd ar gyfer ceisiadau hysbyseb), rhoddwch yr Atodlen 2 newydd a bennir gan Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.