xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Mae Rheoliadau 1989, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn cael eu diwygio yn unol â darpariaethau'r Rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 10A o Reoliadau 1989(1)—
(a)ym mharagraff (5)(b), yn lle “£95” rhoddwch “£110”; a
(b)ym mharagraff (6), yn lle “£190” rhoddwch “£220” ac yn lle “£9,500” rhoddwch “£11,000.”
(3) Yn rheoliad 11A o Reoliadau 1989(2)—
(a)ym mharagraff (1)(a), yn lle “£35” rhoddwch “£40”; a
(b)ym mharagraff (1)(b), yn lle £190”rhoddwch “£220”.
(4) Yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau 1989—
(a)ym mharagraffau 4(1) a 6(2), yn lle “£190” rhoddwch “£220”;
(b)ym mharagraffau 7, 7A(3) a 7B(4)), yn lle “£95” rhoddwch “£110”; a
(c)ym mharagraff 15(2), yn lle “£190”, rhoddwch “£220” ac yn lle “£4,750” rhoddwch “£5,500”.
(5) Yn lle Rhan II o Atodlen 1 i Reoliadau 1989 (graddfeydd ffioedd), rhoddwch y Rhan II newydd a bennir gan Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn.
(6) Yn lle Atodlen 2 i Reoliadau 1989 (graddfeydd ffioedd ar gyfer ceisiadau hysbyseb), rhoddwch yr Atodlen 2 newydd a bennir gan Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.
Mewnosdwyd Rheoliad 10A gan reoliad 4 o O.S. 1992/1817.
Mewnosodwyd Rheoliad 11A gan baragraff 3 o Atodlen 3 i O.S. 1991/2735 ac amnewidiwyd paragraff (1) gan reoliad 2 o O.S. 2002/1876 (Cy.185).
Mewnosodwyd paragraff 7A gan reoliad 6(b) o O.S. 1992/1817.
Mewnosodwyd paragraff 7B gan reoliad 5 o O.S. 1992/3052.