- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002(1) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 7 (ffitrwydd y darparydd cofrestredig)—
(a)ar ôl paragraff (3)(c)(ii) mewnosodir y paragraff canlynol—
“(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (4) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(2) a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988(3).”;
(b)yn lle paragraff (4) rhoddir—
“Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”.
(3) Yn rheoliad 9 (ffitrwydd y rheolwr cofrestredig)—
(a)ar ôl paragraff (2)(c)(ii) mewnosodir paragraff (iii) newydd fel a ganlyn—
“(iii)ac ymhellach, pan fo paragraff (3) yn gymwys, mewn adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wnaed o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.”;
(b)yn lle paragraff (3) rhoddir—
“ Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi.”.
(4) Yn rheoliad 19 (ffitrwydd y gweithwyr)—
(a)ar ddechrau paragraff (1) mewnosodir “Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (5A),”
(b)yn lle paragraff 3 rhoddir—
“Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fo unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond nad yw'r dystysgrif wedi'i dyroddi”.
(c)yn is-bargagraff (a) o baragraff (4) yn lle “cartref plant” rhoddir “cartref gofal”;
(ch)yn is-baragraff (b) o baragraff 4 ar ôl “(5)” rhoddir “neu 5A”;
(d)ym mharagraff (5), y tro cyntaf yr ymddengys yn lle “paragraff” rhoddir “paragraffau (1) a”
(dd)ar ôl paragraff (5) mewnosodir paragraff (5A) newydd fel a ganlyn—
“(5A) Fel dewis arall i baragraff (5), pan fo'r amodau canlynol yn gymwys, gall y person cofrestredig ganiatáu i berson ddechrau gweithio mewn cartref gofal er gwaethaf paragraffau (1) a (4)(b)—
(a)bod paragraff (3) o'r rheoliad hwn yn gymwys;
(b)bod gwybodaeth gyflawn a boddhaol mewn perthynas â'r person hwnnw wedi'i derbyn mewn cysylltiad â'r materion a nodwyd ym mharagraffau 1, 4 a 6 o Atodlen 2;
(c)bod y person wedi darparu—
(i)dau eirda ysgrifenedig, yn cynnwys geirda oddi wrth y cyflogwr diwethaf, os oes un, a
(ii)datganiad ysgrifenedig o fanylion unrhyw dramgwyddau troseddol y mae'r person wedi'i euogfarnu ohonynt, gan gynnwys manylion unrhyw euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 neu y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd, wedi'u cyfaddef;
(ch)ym marn resymol y person cofrestredig na fydd buddiannau'r gwasanaeth yn cael eu bodloni os na ellir penodi'r person; ac
(d)bod y person cofrestredig, tra'n disgwyl derbyn a thra'n bodoloni ei hun ynghylch y dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff (3), yn sicrhau bod y person yn cael ei oruchwylio yn briodol tra'n cyflawni ei ddyletswyddau.”.
(5) Yn Atodlen 2 (yr wybodaeth sydd i fod ar gael mewn perthynas â phersonau sydd am redeg neu reoli cartref gofal neu weithio ynddo)—
(a)yng ngeiriau olaf paragraff 2 yn lle'r geiriau “os yw'n gymwys” rhoddir “i'r graddau a ganiatier o dan Ddeddf yr Heddlu 1997”;
(b)yn lle paragraff 7 rhoddir—
“7. Gwiriad gan yr heddlu sef adroddiad a gaiff ei lunio gan neu ar ran prif swyddog heddlu neu aelod arall o heddlu o fewn ystyr Deddf yr Heddlu 1996(4) sy'n cofnodi, fel ar yr adeg pan gaiff yr adroddiad ei lunio, pob tramgwydd troseddol
(a)y mae'r person wedi'i euogfarnu mewn perthynas â hwy gan gynnwys euogfarnau a dreuliwyd o fewn ystyr Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974(5) ac y gellir eu datgelu trwy rinwedd Gorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975(6); neu
(b)y mae'r person wedi derbyn rhybudd mewn perthynas â hwy, ac ar yr adeg pan roddwyd y rhybudd wedi'u cyfaddef.”
O.S. 1975/1023. Ar ddyddiad dod i rym y rheoliadau hyn mae'r offerynnau canlynol wedi gwneud diwygiadau perthnasol i'r Gorchymyn: O.S. 1986/1249; 1986/2286 ac O.S. 2001/1192.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: