2002 Rhif 273 (Cy.29)

ANIFEILIAID, CYMRUIECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) (Diwygio) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi1 at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19722 mewn perthynas â pholisi amaethyddiaeth cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, a phob pŵ er arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) (Diwygio) 2002; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Chwefror 2002.

Diwygio Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliad Hŷn) 20002

Mae Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hŷn) (Cymru) 20003 yn cael eu diwygio drwy osod y gair “tri” yn rheoliad 7(2)(e) yn lle'r gair “saith”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

Carwyn JonesYsgrifennydd Cynulliad

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn diwygio'r Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliad Hŷn) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/3339) (Cy. 217) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid i geidwad hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol am symudiad gwartheg.

Effaith y diwygio sy'n cael ei wneud gan y Rheoliadau fydd lleihau'r cyfnod y mae'n ofynnol hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ynddo drwy'r post neu drwy ddull electronig am symudiad gwartheg o saith diwrnod i dri (rheoliad 2). Mae hyn yn unol â'r hyn sy'n ofynnol o dan ail indent Erthygl 7.1 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol (OJ Rhif L204, 11.8.2000, t. 1).

Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol ar gyfer y Rheoliadau hyn.