2002 Rhif 2780 (Cy.264)

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 19861 i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1) o'r Ddeddf honno neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny neu y mae'r adran honno yn cael ei chymhwyso iddynt2, i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru3 mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2002.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Yr ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwiliadau y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i adennill ei gostau mewn perthynas â hwy o dan y darpariaethau canlynol neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny, sef—

a

adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 19724 (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â chostau ymchwiliadau),

b

adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19845 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),

c

adran 69(5) o Ddeddf Traenio Tir 19916 (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),

os yw'r ymchwiliad yn agor ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny.

Y swm dyddiol safonol3

Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yw—

a

£566, os yw'r ymchwiliad yn agor cyn 1 Ebrill 2003; a

b

£645, os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987)

Rhodri MorganPrif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi o dan ddarpariaethau penodedig neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny i adennill ei gostau mewn cysylltiad â chynnal ymchwiliad o dan rai deddfiadau, sef:

a

Deddf Llywodraeth Leol 1972;

b

Deddf Rheoleiddio Traffig 1984; ac

c

Deddf Traenio Tir 1991.

Maent yn pennu swm safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r ymchwiliad yn eistedd neu y mae'r person sydd wedi'i benodi i'w gynnal wrthi'n gwneud gwaith arall mewn cysylltiad ag ef. £566 yw'r swm os yw'r ymchwiliad yn agor ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym (29 Tachwedd 2002) neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2003 a £645 os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.