Offerynnau Statudol Cymru
2002 Rhif 2780 (Cy.264)
TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU
Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
8 Tachwedd 2002
Yn dod i rym
29 Tachwedd 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986(1) i unrhyw Weinidog a awdurdodwyd, o dan y darpariaethau statudol hynny a bennir yn adran 42(1) o'r Ddeddf honno neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny neu y mae'r adran honno yn cael ei chymhwyso iddynt(2), i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog mewn perthynas ag ymchwiliad, sef pwerau sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(3) mewn perthynas â Chymru, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ffioedd Ymchwiliadau (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 29 Tachwedd 2002.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
Yr ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt
2. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ymchwiliadau y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru hawl i adennill ei gostau mewn perthynas â hwy o dan y darpariaethau canlynol neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny, sef—
(a)adran 250(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(4) (darpariaethau cyffredinol ynglŷn â chostau ymchwiliadau),
(b)adran 129(1)(d) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(5) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),
(c)adran 69(5) o Ddeddf Traenio Tir 1991(6) (costau ymchwiliad o dan y Ddeddf honno),
os yw'r ymchwiliad yn agor ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym neu ar ôl hynny.
Y swm dyddiol safonol
3. Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 42(4) o Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 ar gyfer ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yw—
(a)£566, os yw'r ymchwiliad yn agor cyn 1 Ebrill 2003; a
(b)£645, os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7))
Rhodri Morgan
Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol
8 Tachwedd 2002
Nodyn Esboniadol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi o dan ddarpariaethau penodedig neu yn rhinwedd y darpariaethau hynny i adennill ei gostau mewn cysylltiad â chynnal ymchwiliad o dan rai deddfiadau, sef:
(a)Deddf Llywodraeth Leol 1972;
(b)Deddf Rheoleiddio Traffig 1984; ac
(c)Deddf Traenio Tir 1991.
Maent yn pennu swm safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r ymchwiliad yn eistedd neu y mae'r person sydd wedi'i benodi i'w gynnal wrthi'n gwneud gwaith arall mewn cysylltiad ag ef. £566 yw'r swm os yw'r ymchwiliad yn agor ar y diwrnod y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym (29 Tachwedd 2002) neu ar ôl hynny ond cyn 1 Ebrill 2003 a £645 os yw'r ymchwiliad yn agor ar 1 Ebrill 2003 neu ar ôl hynny.
1986 p.63. Diddymwyd adran 42(1)(b) gan Ran I o Atodlen 3 i Ddeddf Cydgrynhoi Dŵ r (Darpariaethau Ôl-ddilynol) 1991 (p.60) a diddymwyd adran 42(1)(d) gan Ran II o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).
Mae adran 69(7) o Ddeddf Traenio Tir 1991 yn darparu y bydd adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Thai 1986 yn gymwys os bydd y naill neu'r llall o “the Ministers” wedi'i awdurdodi'n briodol i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw fel y mae'n gymwys os yw Gweinidog wedi'i awdurdodi felly yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad a bennir yn adran 42(1) o Ddeddf 1986. Mae adran 69(5) o Ddeddf 1991 yn awdurdodi'r naill neu'r llall o “the Ministers”, h.y. yr Ysgrifennydd Gwladol neu'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd (gweler adran 72(1) o Ddeddf 1991 i gael y diffiniad o “the Ministers”) i adennill y costau a dynnwyd gan y Gweinidog hwnnw mewn perthynas ag ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Gweinidog hwnnw. Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O dan ddarpariaethau Erthygl 2 ac Atodlen 1 i o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253 (Cy.5)) mae pwerau Gweinidog o dan adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Thai 1986 yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y cyd ag unrhyw un o Weinidogion y Goron y maent yn arferadwy ganddo.