2002 Rhif 2799 (Cy.267)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(2) a (4), a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 19961 fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19932, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflenni a Manylion Rhagnodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2002.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau2

1

Mae'r ffurflen (Saesneg ei hiaith) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) 19963 yn cael ei diwygio fel a nodir yn y testun Saesneg o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

2

Mae'r ffurflen (Gymraeg ei hiaith) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion Rhagnodedig) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 19984 yn cael ei diwygio fel a nodir yn y testun Cymraeg o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.

D.Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

YR ATODLEN

Rheoliad 2

1

Ar ddiwedd cwestiwn 3.1, ychwanegwch—

  • neu a ydy'r ddau ohonoch yn cael (ac a oes gennych hawl i gael) lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd?

2

Yng nghwestiwn 3.29 mewnosodwch y canlynol yn y lle priodol—

a

“Lwfans Profedigaeth: £…… £……Nodyn 84C”;

b

“Lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd: £…… £……Nodyn 48”;

c

“Lwfans mam weddw: £…… £……Nodyn 84D”;

d

“Lwfans rhiant gweddw: £…… £……Nodyn 84D”.

3

Ar ôl cwestiwn 3.34B, mewnosodwch—

3.34C

Rhowch fanylion unrhyw daliad a wnaed i chi neu i'ch partner i dalu iawn am ddigwyddiadau a ddigwyddodd yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Nodyn 90F

4

Ym mharagraffau (a) a (b) o'r Awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3 o'r ffurflen, ar ôl “lwfans ceisio gwaith ar sail incwm” mewnosodwch “neu lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd”.

5

Yn nodyn 48—

a

ar ôl “le Cymhorthdal Incwm” ychwanegwch “Os yw'r ddau bartner yn gymwys i gael lwfans ceisio gwaith o 19 Mawrth 2001 ymlaen dylent wneud “cais ar y cyd” am lwfans ceisio gwaith.”;

b

ar ôl “Rhan 3”, yn yr ail le y mae'n digwydd, mewnosodwch “os yw'r cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3.”.

6

Yn y rhestr ym mharagraff cyntaf nodyn 83 yn lle “neu yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973;” rhowch “,yn Newis Tasglu Amgylchedd y Fargen Newydd lle yr ydych chi yn hunangyflogedig o dan Ddewis Cyflogaeth y Fargen Newydd, rhaglen y Cyfnod Gweithgaredd Dwys neu'r Cyfnod Gweithgaredd Dwys ar gyfer y rhai dros 50 a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu gymhorthdal i gefnogi eich hunangyflogaeth”.

7

Ar ôl nodyn 84B mewnosodwch—

84C

Byddwch cystal â rhoi manylion unrhyw lwfans profedigaeth a gawsoch yn y 12 mis diwethaf. Telir lwfans profedigaeth i berson dros 55 oed ac o dan 60 oed a ddaeth yn weddw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Telir y lwfans o dan adran 39B o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

84D

Telir lwfans mam weddw o dan adran 37 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 a thelir lwfans rhiant gweddw o dan adran 39A o'r Ddeddf honNo.

8

Ar ôl nodyn 90E, mewnosodwch—

90F

Y taliadau a anwybyddir wrth gyfrifio cyfalaf yw'r rheiny sy'n daladwy i chi neu eich partner i dalu iawn i chi, eich partner, eich priod marw neu briod marw eich partner am fod, yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gaethlafuriwr neu'n lafuriwr o dan orfodaeth neu'n riant i blentyn a fu farw neu am ddioddef anaf personol neu golli eiddo yn ystod y Rhyfel hwnnw.

9

Ar ddiwedd nodyn 93, ychwanegwch:

Dylech ateb “Nac ydw” i'r cwestiwn hwn os ydych ar seibiant mamolaeth, gyda hawl i gael tâl mamolaeth statudol o dan adran 164 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu lwfans mamolaeth o dan adran 35 o'r Ddeddf honno, a dim ond ar gyfer y plentyn y mae'r seibiant mamolaeth yn berthnasol iddo y telir y taliadau gofal plant.”.

10

Yn nodyn 95A ar ôl “Rhan 3” mewnosodwch “Os yw cwpl yn cael lwfans ceisio gwaith drwy gais ar y cyd, caiff dau aelod y cwpl lenwi'r awdurdodiad ar ddiwedd Rhan 3.”.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Ffurflenni (dwyieithog) sydd i'w defnyddio gan berchen-feddianwyr a thenantiaid wrth wneud cais am grantiau adnewyddu tai o dan Bennod I o Ran I o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.

Mae'r ffurflen Gymraeg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) (Ffurflen a Manylion Cymraeg) 1998 (O.S. 1998/1113 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r ffurflen Saesneg sy'n cael ei diwygio wedi'i nodi yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Ffurflen a Manylion a Ragnodir) 1996 (O.S. 1996/2891 fel y'i diwygiwyd).

Mae'r diwygiadau yn dilyn y diwygiadau sy'n cael eu gwneud gan Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai (Diwygio) (Cymru) 2002 (O.S. 2798) (Cy.266)i Reoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890).