Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 13 Tachwedd 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig ac nid ydynt yn effeithiol mewn perthynas â cheisiadau grant sy'n cael eu gwneud cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Diwygiadau

2.—(1Mae'r ffurflen (Saesneg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) 1997(1) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Saesneg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(2Mae'r ffurflen (Gymraeg) a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Ffurflen Gais Gymraeg) 1999(2)) yn cael ei diwygio yn unol â thestun Cymraeg yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Tachwedd 2002