xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2800 (Cy.268)

TAI, CYMRU

Rheoliadau Grantiau Adleoli (Ffurflen Gais) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

12 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

13 Tachwedd 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 132(3) a (4), a 146(1) a (2) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996(1) fel y'u hestynnwyd gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

(1)

1996 p.53. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol wedi'u trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo. I gael y diffiniad o “prescribed” gweler adran 140(1).