xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2801 (Cy.269)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

TRIBIWNLYSOEDD AC YMCHWILIADAU, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

12 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 303A(5) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) (“y Ddeddf”) ac sydd bellach yn arferadwy, mewn perthynas â Chymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) (Swm Dyddiol Safonol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Personau ac ymchwiliadau y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw berson sy'n cael ei benodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gynnal, neu fel un o'r personau sydd i gynnal, ymchwiliad cymwys, yn unol ag ystyr y term hwnnw yn adran 303A(1) o'r Ddeddf, sy'n agor ar neu ar ôl y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym.

Y swm dyddiol safonol

3.  Y swm dyddiol safonol a ragnodir o dan adran 303A(5) o'r Ddeddf yw:

(a)£520, os yw'r dyddiad y mae'r ymchwiliad cymwys yn agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2003 ond cyn 1 Ebrill 2004;

(b)£618, os yw'r dyddiad y mae'r ymchwiliad cymwys yn agor ar neu ar ôl 1 Ebrill 2004.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Tachwedd 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gymwys pan fydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i awdurdodi i adennill y costau y mae wedi'u hysgwyddo mewn cysylltiad ag ymholiadau neu wrandawiadau eraill sy'n ymwneud â chynlluniau datblygu unedol, cynlluniau lleol neu barthau cynllunio syml.

Mae'r Rheoliadau yn pennu swm dyddiol safonol y gellir ei godi am bob diwrnod y mae'r person sydd wedi'i benodi i gynnal yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad arall wrthi'n cynnal yr ymchwiliad neu'r gwrandawiad hwnnw neu os yw wrthi fel arall yn gwneud gwaith sy'n gysylltiedig ag ef.

(1)

1990 p.8. Mewnosodwyd adran 303A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan adran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref (Costau Ymchwiliadau etc.) 1995 (p.49). Gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990 i gael y diffiniad o “prescribed”.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran a enwyd, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2; gweler y cofnod yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.