Diwygio Rheoliadau'r Rhestr Atodol3.

(1)

Yn rheoliad 6(2)(b) ac (c), dileer y geiriau “yn Lloegr” a rhodder y geiriau “yng Nghymru” yn eu lle.

(2)

Yn rheoliad 9(2), dileer is-baragraffau (b) ac (c) a rhodder y canlynol yn eu lle—

“(b)

yn cael eu euogfarnu mewn man arall o dramgwydd, neu'r hyn fyddai'n gyfystyr â thramgwydd troseddol pe bai wedi'i gyflawni yn y Deyrnas Unedig, neu'n destun cosb a fyddai'n gyfystyr i gael ei rwymo neu dderbyn rhybudd;

(c)

yn cael ei gyhuddo yn y Deyrans Unedig o dramgwydd troseddol, neu'n cael ei gyhuddo mewn man arall o dramgwydd, a fyddai pe bai'n cael ei gyflawni yn y Deyrans Unedig, yn gyfystyr â thramgwydd troseddol;”.

(3)

Yn rheoliad 11, dileer paragraff (4)(b) a rhodder y canlynol yn ei le—

“(b)

y cyfnod amser ers y twyll diwethaf (os o gwbl), ac ers i unrhyw ymchwiliad i'r twyll hwnnw ddod i ben;”.

(4)

Yn rheoliad 15, dileer paragraff (6)(a) a rhodder y canlynol yn ei le—

“(a)

gall yr Awdurdod Iechyd a'r meddyg ill dau apelio i'r FHSAA i amrywio'r amodau a osodwyd ar y meddyg, i osod amodau gwahanol, neu i ddiddymu'r tynnu amodol;”.