2002 Rhif 283 (Cy.34)
Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002
Wedi'i wneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 1, 7, 8 a 83 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 19811 a phob pŵ er arall sy'n eu galluogi yn y cyswllt hwnnw, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
Enwi, Cymhwyso a Chychwyn1
1
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Crynoadau Anifeiliaid (Mesurau Dros Dro) (Cymru) 2002 ac mae'n gymwys i Gymru.
2
Daw i rym ar 11 Chwefror 2002 ac fe fydd yn peidio a bod mewn grym ar 1 Rhagfyr 2002.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn, oni bai fod y cyd-destun yn mynnu fel arall:
ystyr “crynhoad anifeiliaid” (“animal gathering”) yw achlysur pryd deuir ag anifeiliaid ynghyd at ddibenion—
- a
gwerthu;
- b
dangos;
- c
arddangos;
- ch
i'w traddodi ymlaen i'w lladd o fewn Prydain Fawr; neu
- d
yn achos gwartheg stôr, i'w traddodi ymlaen o fewn Prydain Fawr ar gyfer pesgu pellach neu eu gorffen,
ac mae'n cynnwys derbyn neu gadw dros dro yr anifeiliaid hynny; ac
- a
ystyr “diheintydd a gymeradwywyd” (“approved disinfectant”) yw diheintydd a restrir yng Ngorchymyn Clefydau Anifeiliaid (Diheintyddion a Gymeradwywyd) 19782 fel un a gymeradwywyd am y tro i'w defnyddio o dan orchmynion cyffredinol(.
Defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynoadau anifeiliaid3
1
Yn ddarostyngedig i erthygl 4 isod, rhaid i bob person beidio â defnyddio tir ac adeiladau ar gyfer crynhoad anifeiliaid—
a
yn groes i ddarpariaethau'r Atodlen i'r Gorchymyn hwn; a
b
oni bai fod y tir a'r adeiladau hynny wedi'u trwyddedu i'r diben hwnnw gan arolygydd milfeddygol.
2
Rhaid i'r drwydded y cyfeirir ati ym mharagraff (1) uchod—
a
fod yn ysgrifenedig;
b
fod yn bosibl ei diwygio, ei hatal dros dro neu ei diddymu drwy hysbysiad ysgrifenedig wedi ei gyhoeddi gan arolygydd milfeddygol; ac
c
fod yn ddarostyngedig i'r cyfryw amodau ag y barna'r arolygydd milfeddygol yn angenrheidiol er mwyn rheoli cyflwyno neu ledaenu clefyd o fewn neu oddi wrth y tir a'r adeiladau y mae'r drwydded yn perthyn â hwy.
Eithriadau i erthygl 34
1
Ni fydd erthygl 3 uchod yn gymwys pan fydd—
a
yr holl anifeiliaid sy'n mynychu'r crynoad â'r un perchennog a'r un ceidwad; a
b
y crynoad anifeiliad i ddigwydd ar dir neu mewn adeilad sydd yn eiddo i neu ym meddiant perchennog yr anifeiliaid.
2
At ddibenion yr erthygl hwn, ystyr “ceidwad” yw person sydd â'r prif gyfrifoldeb am ofal a rheoli'r anifeiliaid o ddydd i ddydd.
Gorfodi5
Ac eithrio lle y darperir yn wahanol, rhaid i'r Gorchymyn hwn gael ei orfodi gan yr awdurdod lleol.
Gorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 19256
Ni fyddGorchymyn Marchnadoedd, Gwerthiannau a Llociau 19253 yn gymwys tra bod y Gorchymyn hwn mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
ATODLENGOFYNION CYFFREDINOL YNGHYLCH DEFNYDDIO TIR AC ADEILADAU AT DDIBENION CRYNOADAU ANIFEILIAID
Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod cyn crynhoad anifeiliaid1
Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu i grynhoad anifeiliaid ddigwydd ar dir ac mewn adeiladau lle mae anifeiliaid wedi'u cadw hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—
a
yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a
b
y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
Cyfnod cyfyngedig 28 diwrnod ar ôl crynhoad anifeiliaid2
a
Yn ddarostyngedig i baragraff 3 o'r Atodlen hon, rhaid i bob person beidio â chaniatáu anifeiliaid i fynd i dir ac adeiladau lle bu crynhoad anifeiliaid hyd nes i 28 diwrnod fynd heibio o'r diwrnod pryd—
i
yr ymadawodd yr anifail olaf â'r tir a'r adeiladau hynny; a
ii
y cwblhawyd glanhau halogiad gweladwy ar y corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynediad iddynt.
b
Yn ystod y cyfnod 28 diwrnod y cyfeirir ato ym mharagraff (a) uchod, rhaid i bob person beidio â symud o'r tir a'r adeiladau unrhyw gorlan, clwyd neu gyfarpar arall y mae'r anifeiliaid wedi cael mynd atynt oni bai eu bod wedi'u hysgubo neu eu crafu'n lân, eu glanhau drwy olchi â diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau gwneuthurwyr.
Eithriad i'r cyfnod cyfyngedig3
Nid yw'r cyfyngiadau ym mharagraff 1 a 2 uchod yn gymwys os yw'r rhannau o'r tir a'r adeiladau y mae'r anifeiliaid yn cael mynd atynt wedi'u palmantu â sment, concrid, asffalt neu unrhyw ddeunydd caled, anhydraidd y mae modd ei lanhau a'i ddiheintio'n effeithiol ac os yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu glanhau a'u diheintio yn unol â Pharagraffau 4, 5, a 6 isod.
Glanhau a diheintio tir ac adeiladau wedi'u palmantu
4
Rhaid ysgubo neu grafu'n lân pob rhan o'r tir a'r adeiladau y cafodd yr anifeiliaid fynd iddynt (gan gynnwys corlannau, clwydi ac unrhyw gyfarpar arall) ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr.
5
Rhaid i'r gwaith glanhau a diheintio a nodir ym mharagraff 4 uchod—
a
beidio â dechrau hyd nes i'r anifeiliaid gael eu symud o'r rhan o'r tir a'r adeiladau sydd i'w glanhau a'u diheintio; a
b
gael ei gwblhau ar ôl i'r anifail olaf ymadael â'r tir a'r adeiladau a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
6
Os (am reswm nad yw'n ymwneud â phresenoldeb anifeiliaid yno) yw'r tir a'r adeiladau yn cael eu halogi gan ysgarthion anifeiliaid neu ddeunydd arall o darddiad anifeilaidd neu unrhyw halogyn o darddiad anifeilaidd yna rhaid ysgubo neu grafu'n lân y tir a'r adeiladau neu'r rhannau hynny a halogwyd felly,ac yna eu glanhau drwy olchi a defnyddio diheintydd a gymeradwywyd yn unol â chyfarwyddiadau'r gwneuthurwyr cyn i unrhyw anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto.
Gwaredu gwastraff o grynoadau anifeiliaid7
Rhaid i bob bwyd y cafodd yr anifeiliaid fynd ato, a phob sarn, ysgarthion, a deunydd arall o darddiad anifeilaidd a halogion eraill sy'n deillio o'r anifeiliaid yn y crynhoad anifeiliaid, cyn gynted â phosibl a chyn i'r anifeiliaid gael mynd i'r tir a'r adeiladau eto, gael—
a
eu distrywio;
b
eu trin er mwyn tynnu'r perygl o drosglwyddo afiechyd; neu
c
eu gwaredu fel nad yw'r anifeiliaid yn cael mynd atynt.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)