2002 Rhif 2834 (Cy.272)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 19901, ac sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru2 ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd3 , ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: