xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
7 Tachwedd 2002
Yn dod i rym
30 Tachwedd 2002
Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(2), 17(1), 26(1)(a), 31 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), ac sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2) ar ôl rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, sy'n sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac sy'n pennu gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd(3) , ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Trosglwyddwyd swyddogaethau'r “Ysgrifennydd Gwladol” i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672, fel y'i diwygiwyd gan a.40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.