xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio, mewn perthynas â Chymru, Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998, er mwyn rhoi ar waith—

(a)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2001/62/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 90/128/EEC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif. L221, 17.8.2001, t.18);

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/16/EC ar ddefnyddio deilliadau epocsi penodol mewn deunyddiau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif. L51, 22.2.2002, t.27); a

(c)(mewn mân agweddau) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/17/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 90/128/EEC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif. L58, 28.2.2002, t.19).

2.  Mae'r Rheoliadau hefyd yn adlewyrchu, yn effeithiol o 4 Medi 2002, ddiddymiad Cyfarwyddeb 90/128/EEC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif. L75, 21.3.1990) fel y'i diwygiwyd a'i hailddeddfiad mewn ffurf gyd-grynhoi gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72/EC ynghylch deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd (OJ Rhif. L220 15.8.2002, t.18).

3.  Mae'r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 1998 drwy wneud y canlynol—

(a)ychwanegu darpariaeth yn datgan bod Rheoliadau 1998, yn ychwanegol at reoleiddio (fel cynt) gysylltiad mathau penodol o ddeunyddiau ac eitemau plastig â bwyd, bellach hefyd yn cynnwys darpariaethau sy'n rheoleiddio cysylltiad â bwyd ar fathau penodol o ddeunyddiau eraill sy'n dod i gysylltiad â bwyd, sef gludyddion a deunyddiau neu eitemau orchuddiwyd â haenau arwyneb (rheoliad 3);

(b)darparu bod y diffiniad o “plastic material or article” i gael ystyr estynedig pan ddefnyddir y term hwnnw yng nghyd-destun darpariaethau a ychwanegwyd at Reoliadau 1998 wrth weithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/16/EC (rheoliad 4(a)(vii) a (c));

(c)estyn, er mwyn cymhwyso i ludyddion a deunyddiau ac eitemau a orchuddiwyd â haenau arwyneb, y darpariaethau yn Rheoliadau 1998 sydd yn gwneud y canlynol—

(i)rhoi i'r term “sale” ystyr estynedig at ddibenion y Rheoliadau hynny,

(ii)gwahardd defnyddio, gwerthu neu fewnforio deunyddiau ac eitemau plastig nad ydynt yn bodloni'r safonau penodedig,

(iii)peri bod yr amddiffyniad o “due diligence” ar gael yn achos tramgwyddau sy'n ymwneud â deunyddiau ac eitemau plastig,

(iv)creu rhagdybiaeth ynghylch cywirdeb unrhyw fanylion a ddangosir mewn perthynas â deunyddiau neu eitemau plastig a all ddod i gysylltiad â bwyd, a

(v)cymhwyso at ddibenion y Rheoliadau hynny, mewn perthynas â deunyddiau ac eitemau plastig, ddarpariaethau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliadau 4(b), 5, 12(b), 13 a 14 yn ôl eu trefn);

(ch)ychwanegu at y darpariaethau sy'n cyfyngu ar ddefnyddio sylweddau fel monomerau neu ychwanegion wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig, darpariaethau sy'n cyfyngu ar ddefnyddio 2,2-bis(4-hydroxyphenyl) propane bis(2,3-epoxypropyl) ether, (“BADGE”), bis(hydroxyphenyl) methane bis(2,3-epoxypropyl) ethers (“BFDGE”) a novolac glycidyl ethers (“NOGE”) fel monomerau neu ychwanegion mewn gweithgynhyrchu o'r fath (rheoliadau 6(a) ac 8(a));

(d)newid y dyddiad (o 31 Rhagfyr 2001 i 31 Rhagfyr 2004) pan na cheir wedyn ddefnyddio'r monomerau a restrir yn Adran B o Atodlen 1 i Reoliadau 1998 wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig ac addasu'r rhestr o'r mathau o ddeunyddiau ac eitemau plastig nad yw'r cyfyngiadau ar ddefnyddio monomerau wrth eu gweithgynhyrchu yn gymwys iddynt (rheoliad 6(b) ac (c));

(dd)cyflwyno cyfyngiadau newydd wrth weithgynhyrchu deunyddiau ac eitemau plastig sy'n defnyddio BADGE, BFDGE neu NOGE heblaw fel monomerau neu ychwanegion (rheoliad 7);

(e)diwygio'r darpariaethau sy'n llywodraethu profi gallu deunyddiau ac eitemau plastig i drosglwyddo eu hansoddion i fwyd, yn benodol drwy ychwanegu darpariaethau sy'n llywodraethu profi'r gallu hwnnw yn achos BADGE, BFDGE a NOGE (rheoliadau 9 a 18);

(f)ychwanegu darpariaeth yn cyfyngu ar faint y caniateir i ddeunyddiau neu eitemau plastig penodol drosglwyddo sylweddau penodol i fwyd (rheoliad 10);

(ff)cyflwyno cyfyngiadau newydd ar weithgynhyrchu gludyddion neu ddeunyddiau ac eitemau a orchuddir â haenau arwyneb sy'n defnyddio BADGE, BFDGE neu NOGE a darpariaethau newydd sy'n llywodraethu profi gallu gludyddion neu ddeunyddiau ac eitemau o'r fath i drosglwyddo'r sylweddau hynny i fwyd (rheoliad 11);

(g)ei gwneud yn dramgwydd i dorri unrhyw un o'r cyfyngiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (ch), (dd) neu (ff) uchod gan gynnwys darpariaethau trosiannol (rheoliad 12 (a) ac (c));

(ng)ychwanegu sylweddau newydd at y rhestr o fonomerau y gellir eu defnyddio wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig a diwygio'r defnydd o fonomerau penodol a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu o'r fath (rheoliad 15);

(h)ychwanegu sylweddau newydd at y rhestr anghyflawn o ychwanegion a ddefnyddir wrth weithgynhyrchu deunyddiau neu eitemau plastig, diwygio amodau defnyddio ychwanegion penodol a ddefnyddir mewn gweithgynhyrchu o'r fath a dileu un ychwanegyn o'r rhestr honno (rheoliadau 8(a) ac 16);

(i)ychwanegu sylweddau penodol at y rhestr o sylweddau y nodir manylebau amdanynt yn Atodlen 2B i Reoliadau 1998(rheoliad 17); a

(j)gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Diogelwch Bwyd (Samplo a Chymwysterau) 1990 (rheoliad 19).

4.  Mae arfarniad rheoliadol, sydd yn cynnwys asesiad cost cydymffurfedd o'r effaith y maent yn debygol o gael ar gostau busnes, wedi cael ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn.