xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2880 (Cy.276)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

20 Tachwedd 2002

Yn dod i rym

25 Tachwedd 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(1), 33(7), 105(2) and 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Gweithredu Trefniadau Gweithredol neu Amgen Gwahanol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2000” yw Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Cynigion

2.—(1Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithredol (“trefniadau gweithredol presennol”), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 29(1) o Ddeddf 2000 (gweithredu a rhoi cyhoeddusrwydd i drefniadau gweithredol), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 7(1) o'r Rheoliadau hyn ai peidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau gweithredol (“trefniadau gweithredol gwahanol”) sy'n wahanol i'r trefniadau gweithredol presennol ar yr amod nad yw'r cynigion yn cynnwys ffurf wahanol ar weithrediaeth.

(2Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen (“trefniadau amgen presennol”), yn rhinwedd penderfyniad o dan adran 33(2) o Ddeddf 2000 (gweithredu trefniadau amgen), p'un a ydynt yn cael eu cymhwyso gan reoliad 7(2) o'r Rheoliadau hyn ai peidio, lunio cynigion ar gyfer gweithredu trefniadau amgen (“trefniadau amgen gwahanol”) sy'n wahanol i'r trefniadau amgen presennol ar yr amod nad yw'r cynigion yn cynnwys ffurf ar drefniadau amgen sy'n wahanol i'r hyn a bennir yn rheoliad 4 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(2).

Llunio cynigion

3.  Wrth lunio cynigion o dan reoliad 2, rhaid i awdurdod lleol ystyried i ba raddau y bydd y cynigion, os cânt eu rhoi ar waith, yn debygol o fod o gymorth wrth sicrhau gwelliant parhaus yn y dull y mae swyddogaethau'r awdurdod yn cael eu harfer, gan dalu sylw i gyfuniad o ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

Cyfarwyddiadau

4.  Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y rheoliadau hyn.

Cydsyniad maer etholedig i gynigion

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yw awdurdod lleol yn llunio cynigion o dan reoliad 2(1), ac o dan y trefniadau gweithredol presennol mae'r weithrediaeth ar y ffurf a bennir yn adran 11(2) neu (4) o Ddeddf 2000 (maer a gweithrediaeth gabinet neu faer a gweithrediaeth rheolwr cyngor), ni chaiff yr awdurdod lleol roi'r cynigion ar waith heb gydsyniad ysgrifenedig y maer etholedig o dan y trefniadau gweithredol presennol.

(2Nid yw cydsyniad maer etholedig yn ofynnol o dan baragraff (1) os yw'r trefniadau sy'n destun y cynigion a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn wahanol i'r trefniadau gweithredol presennol o ran gweithrediad a swyddogaethau pwyllgor gorolygu a chraffu neu is-bwyllgor o'r math hwnnw o bwyllgor.

Cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6.  —Os llunnir cynigion o dan reoliad 2 ac sy'n cynnwys newid i—

(a)rôl neu gyfrifoldebau'r weithrediaeth neu'r cyngor,

(b)rôl neu strwythur pwyllgorau gorolygu a chraffu,

rhaid i'r awdurdod lleol anfon i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gopi o'r cynigion a rhaid iddo beidio â'u rhoi ar waith heb gydsyniad ysgrifenedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gofynion penderfyniad

7.—(1Rhaid i is-adran (1) o adran 29 (gweithredu trefniadau gweithredol) fod yn gymwys at ddiben gweithredu trefniadau gweithredol gwahanol fel y mae'n gymwys at ddiben gweithredu trefniadau gweithredol yn wreiddiol.

(2Rhaid i is-adran (2) o adran 33 (gweithredu trefniadau amgen) fod yn gymwys at ddibenion gweithredu trefniadau amgen gwahanol fel y mae'n gymwys ar ddiben gweithredu trefniadau amgen yn wreiddiol.

Cyhoeddusrwydd ar gyfer trefniadau

8.  Pan fydd awdurdod lleol wedi penderfynu gweithredu trefniadau gweithredol neu amgen gwahanol, rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pasio penderfyniad o'r fath, sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau gwahanol ar gael yn ei brif swyddfa i'w harchwilio gan aelodau o'r cyhoedd ar bob awr resymol.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

20 Tachwedd 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 yn darparu i awdurdodau lleol lunio cynigion ar gyfer trefniadau gweithredol (y mae swyddogaethau penodol yr awdurdod yn gyfrifoldeb gweithrediaeth o danynt) neu, yn achos awdurodau penodol, gweithredu trefniadau amgen. Yn achos y trefniadau gweithredol, rhaid i weithrediaeth yr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11 o'r Ddeddf honno.

Mae'r rheoliadau hyn yn galluogi awdurdod lleol, sy'n gweithredu trefniadau gweithredol neu amgen, i lunio cynigion i newid y trefniadau hynny.

Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, wrth iddo lunio cynigion, ystyried sut y gall y cynigion fod o gymorth wrth sicrhau gwelliant parhaus yn y ffordd mae ei swyddogaethau yn cael eu harfer, gan dalu sylw i ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeitholrwydd.

Mae rheoliad 4 yn darparu bod rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 5 yn darparu bod rhaid cael cydsyniad y maer, os bydd awdurdod lleol sydd â maer etholedig yn bwriadu newid ei drefniadau gweithredol, oni bai bod y cynigion ond yn ymwneud â newid gweithrediad neu swyddogaethau pwyllgor gorolygu a chraffu neu is-bwyllgor o'r math hwn o bwyllgor.

Mae rheoliad 6 yn darparu ar gyfer cael cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru mewn achosion penodol.

Mae rheoliad 7 yn ei gwneud yn ofynnol cael penderfyniad gan awdurdod lleol er mwyn i'r awdurdod hwnnw weithredu trefniadau gwahanol.

Mae rheoliad 8 yn darparu i gopïau o ddogfen sy'n nodi'r darpariaethau ar gyfer trefniadau gwahanol fod ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio ym mhrif swyddfa'r awdurdod lleol.