Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys mewn perthynas â Chymru, yn gwneud diwygiadau amrywiol i nifer o Reoliadau sy'n rheoli lleoli, gofal a llety plant sy'n derbyn gofal gan awdurdodau lleol wrth arfer eu swyddogaethau o dan Ddeddf Plant 1989 ('Deddf 1989'), ac i nifer o Reoliadau a wnaed o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 ('Deddf 2000').

Caiff Rheoliadau Deddf 1989 eu diwygio o ganlyniad i weithredu Rhan II o Ddeddf 2000 mewn perthynas â chartrefi plant a chartrefi gofal. Gwneir hefyd amryw o fân ddiwygiadau a diwygiadau diweddaru eraill.

Caiff Rheoliadau Deddf 2000 eu diwygio er mwyn unioni mân wall drafftio, ac yn ogystal: (i) mewn perthynas â Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002, i eglurhau nad yw sefydliad yn gartref gofal at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000 pan mai dim ond llety ynghyd â gofal i blant fu gynt yn blant maeth i'r person sy'n ei weithredu y mae'n eu darparu; a (ii) mewn perthynas â Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002, i hepgor y gofyniad bod raid i awdurdod lleol neu Ymddiriedolaeth GIG gyflenwi tystlythyr ariannol i gydfynd â chais i gofrestru o dan Ran II o Ddeddf Safonau Gofal 2000.