Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Gofal Plant 1991

7.—(1Caiff Rheoliadau Adolygu Achosion Gofal Plant 1991(1)) eu diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 1(2) (dehongli), hepgorir y diffiniad o “guardian ad litem”.

(3Yn rheoliad 1(2) a 12, yn lle'r geiriau “registered children’s homes” rhoddir “private children’s homes” bob tro y diwgydd.

(4Yn rheoliad 13 (eithriadau i gymhwyso'r Rheoliadau), yn lle'r geiriau “on behalf of” hyd at ddiwedd y rheoliadau, rhoddir “by a local authority or a voluntary organisation in a school which is a children’s home within the meaning of section 1(6) of the Care Standards Act 2000.”.

(5Yn Atodlen 2 (ystyriaethau y mae awdurdodau cyfirfol i'w ystyried), ym mharagraff 4, yn lle “Deddf Addysg 1981” rhoddir “Deddf Addysg 1996”.