Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) 2002

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn Gorchymyn Deddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 1, Arbedion a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002.

(2Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad 1967(1);

  • ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993(2);

  • ystyr “y dyddiad cychwyn” (“the commencement date”) yw 1 Ionawr 2003; ac

  • mae cyfeiriadau at adrannau ac atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 ac at Atodlenni iddi.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Darpariaethau sy'n dod i rym ar y dyddiad cychwyn

2.  Bydd y darpariaethau canlynol yn Neddf Diwygio Deiliadaeth ar y Cyd a Lesddaliad 2002 dod i rym ar y dyddiad cychwyn—

(a)adrannau 114, 129, 132, 133, 137 a 142;

(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ac arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn—

(i)adrannau 115 i 120, 125, 127, 128, 130, 131, 134 i 136, 138 i 141, 143 i 147, 160 i 162; a

(ii)adran 180 i'r graddau y mae'n berthnasol i'r diddymiadau hynny yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;

(c)adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 122, 151 to 153, 156, 164, 166, 167, 171, 174 ac Atodlen 12, i'r graddau y maent yn rhoi pŵer i wneud rheoliadau.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

4 Rhagfyr 2002