xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
3.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gwneud darpariaeth ar gyfer treuliau swyddog canlyniadau etholaeth mewn etholiad Cynulliad mewn perthynas â thalu swyddogion llywyddu mewn gorsafoedd pleidleisio.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) i (6), yr uchafswm y gellir ei adennill mewn etholiad Cynulliad ar gyfer y treuliau a bennwyd yn is-baragraff (1) (gan gynnwys treuliau a dynnwyd mewn perthynas â pherson sy'n ysgwyddo dyletswyddau swyddog llywyddu ar y diwrnod pleidleisio o ganlyniad i analluogrwydd y swyddog llywyddu a benodwyd eisoes) mewn perthynas â'r swyddog llywyddu ym mhob gorsaf bleidleisio yw £141.00.
(3) Mewn unrhyw etholiad cyffredin caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £37.00 pan geir mewn perthynas ag etholaeth Cynulliad bleidlais mewn etholiad etholaeth ac etholiad rhanbarthol.
(4) Pan geir mewn lle pleidleisio mwy nag un orsaf bleidleisio caiff y swm a grybwyllir yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 mewn perthynas ag un swyddog llywyddu yn unig yn y gorsafoedd pleidleisio yn y lle pleidleisio hwnnw.
(5) Mewn perthynas â swyddog llywyddu y mae is-baragraff (4) yn gymwys caiff y swm sydd wedi'i grybwyll yn is-baragraff (2) ei gynyddu ag £8.00 pan fo is-baragraff (3) hefyd yn gymwys.
(6) Caiff y swm a grybwyllwyd yn is-baragraff (2) ei gynyddu â £37.00 pan gaiff pleidleisio mewn etholiad Cynulliad ei gyfuno â'r pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol o dan erthygl 14(1) neu (2) o Orchymyn 1999.