- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
11.—(1) Os yw unrhyw berson yn tramgwyddo o dan reoliad 6(2) oherwydd gweithred neu fethiant rhyw berson arall, bydd y person arall hwnnw yn euog o'r tramgwydd; a gall person gael ei gyhuddo o'r tramgwydd a'i gollfarnu yn rhinwedd y paragraff hwn p'un a oes achos yn cael ei ddwyn yn erbyn y person cyntaf ai peidio.
(2) Mewn unrhyw achos am dramgwydd o dan reoliad 6(2) uchod, bydd yn amddiffyniad i'r person a gyhuddwyd, yn ddarostyngedig i baragraff (3) isod, brofi ei fod ef neu ei bod hi wedi cymryd pob cam rhesymol ymlaen llaw ac wedi arfer pob gofal dyladwy er mwyn osgoi tramgwyddo ei hunan neu er mwyn atal person o dan ei reolaeth rhag tramgwyddo.
(3) Os yw'r amddiffyniad a ddarperir gan baragraff (2) uchod mewn unrhyw achos yn ymwneud â'r honiad bod y tramgwydd wedi'i gyflawni oherwydd gweithred neu ddiffyg gweithred person arall, neu oherwydd dibyniaeth ar wybodaeth a roddwyd gan berson arall, ni fydd gan y person a gyhuddir hawl i ddibynnu ar yr amddiffyniad hwnnw heb ganiatâd y llys oni bai—
(a)o leiaf saith diwrnod clir cyn y gwrandawiad, a
(b)os yw wedi ymddangos o'r blaen gerbron llys mewn cysylltiad â'r tramgwydd honedig o fewn un mis ar ôl ymddangos felly am y tro cyntaf,
ei fod wedi cyflwyno i'r erlynydd hysbysiad ysgrifenedig yn rhoi unrhyw wybodaeth a oedd yn ei feddiant ar y pryd sy'n dangos pwy oedd y person arall hwnnw neu sy'n helpu i ddangos pwy ydoedd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: