xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3160 (Cy.295)

AER GLÅN, CYMRU

Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

17 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 20(6) a 63(1) o Ddeddf Aer Glân 1993(1), ac sy'n arferadwy yn awr gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2002 a byddant yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Tanwyddau Awdurdodedig at ddibenion Deddf Aer Glân 1993

2.—(1Diwygir Atodlen 1 i Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001(3) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 3(a)—

(a)yn lle “85” rhoddir “95”; a

(b)ar ôl “rhwymwr triagl ac asid ffosfforig” mewnosodir “neu rwymwr organig”.

(3Ym mharagraff 5(a), dileir “a lleithder (sef gweddill y pwysau)”.

(4Ar ôl paragraff 10, mewnosodir—

10A.  Brics glo Dragonglow, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sydd yn frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd ac sy'n pwyso 100 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o gyfanswm y pwysau.

10B.  Brics glo Dragonbrite, a weithgynhyrchir gan Tower Colliery Limited yn Aberdâr, Rhondda Cynon Taf—

(a)sy'n cynnwys llwch y tŵr (sef rhyw 95 y cant o gyfanswm y pwysau) a rhwymwr wedi ei seilio ar resin (sef gweddill y pwysau);

(b)a weithgynhyrchwyd o'r cyfansoddion hynny drwy broses sy'n cynnwys rholio-wasgu a chaledu oer;

(c)sydd yn frics glo ar siâp gobennydd, wedi eu marcio â'r llythyren “T” ar un ochr ac sy'n pwyso 50 gram ar gyfartaledd; ac

(ch)nad ydynt yn cynnwys mwy nag 1 y cant o sylffwr o gyfanswm y pwysau.

(5Ym mharagraffau 14, 27, 28 a 30, yn lle “Shildon, County Durham” rhoddir “Immingham Briquetting Works, Immingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln”.

(6Ym mharagraff 14(a) a 28(a) ar ôl “rhwymwr organig”, ac ym mharagraff 27(a) ar ôl “rhwymwr organig sy'n caledu pan fo'n oer”, mewnosodir “neu rwymwr triagl ac asid ffosfforig”.

Eithriadau

3.  Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed gan reoliad 2(5) uchod, tanwyddau awdurdodedig o hyd fydd brics glo Homefire, brics glo Supertherm, brics glo Supertherm II a brics glo Thermac a weithgynhyrchwyd gan Coal Products Limited yn Shildon, County Durham cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Rhagfyr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Pan fo mwg yn cael ei ollwng o simnai mewn ardal rheoli mwg a bod y simnai honno naill ai—

(a)yn simnai adeilad; neu

(b)yn simnai sydd yn gwasanaethu ffwrnais bwyler sefydlog neu beiriannau diwydiannol (heb fod yn simnai adeilad)

mae adran 20 o Ddeddf Aer Glân 1993 yn darparu bod meddiannydd yr adeilad, neu, yn ôl y digwydd, y person sy'n meddu ar y bwyler neu'r peiriannau, yn euog o dramgwydd. Mae'n amddiffyniad os gellir dangos mai drwy ddefnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig yr achoswyd y gollyngiad honedig.

Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys i Gymru, yn diwygio ymhellach Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3762 (Cy.311)) (“Rheoliadau 2001”), a gafodd eu diwygio o'r blaen gan Reoliadau Ardaloedd Rheoli Mwg (Tanwyddau Awdurdodedig) (Diwygio) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/3996 (Cy. 327)), fel bod brics glo Dragonglow a Dragonbrite sy'n bodloni'r amodau a bennir yn rheoliad 2(3) yn danwydd awdurdodedig.

Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau amrywiol i Reoliadau 2001, ac yn adlewyrchu'r newidiadau canlynol—

(a)mae'r gweithgynhyrchwr wedi ychwanegu rhwymwr arall at frics glo Homefire, brics glo Supertherm, a brics glo Supertherm II; a

(b)mae brics glo Homefire, brics glo Supertherm, brics glo Supertherm II a brics glo Thermac erbyn hyn yn cael eu gweithgynhyrchu mewn lleoliad gwahanol.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.