Search Legislation

Rheoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd)(Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3161 (Cy.296)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd)(Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

17 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

1 Chwefror 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 87(6), 87D(2) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989(1).

Enwi, dehongli, cymhwyso a chychwyn

1.—(1Enw'r rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd)(Cymru) 2002.

(2Yn y rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 1989” (“the 1989 Act”) yw Deddf Plant 1989;

ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodwyd yn briodol sy'n arfer pwer mynediad a roddir gan adran 87(5) o Ddeddf 1989; ac

ystyr “ysgol neu goleg perthnasol” (“relevant school or college”) yw ysgol neu goleg sy'n darparu llety ar gyfer unrhyw blentyn ac y mae adran 87(1) o Ddeddf 1989 yn gymwys iddo.

(3Mae'r rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

(4Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2003.

Arolygu'r Tir ac Adeiladau

2.—(1Caiff person awdurdodedig arolygu unrhyw dir ac adeiladau, neu ran o unrhyw dir ac adeiladau, sydd, neu sydd i fod, yn dir ac adeiladau ysgol neu goleg perthnasol.

(2Caiff person awdurdodedig gyflawni unrhyw archwiliad o'r fath i gyflwr a rheolaeth y tir a'r adeiladau a arolygir o dan baragraff (1) y mae o'r farn ei bod yn angenrheidiol at ddibenion yr arolygiad.

(3Caiff arolygiad o dan baragraff (1) ddigwydd heb hysbysu'r person perthnasol(2).

Arolygu cofnodion

3.—(1Caiff person awdurdodedig arolygu unrhyw gofnodion ysgol neu goleg perthnasol sy'n berthnasol i gyflawni dyletswydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 87(3) o Ddeddf 1989.

(2Mae'r pŵ er ym mharagraff (1) yn cynnwys pŵ er i'w gwneud yn ofynnol i'r person perthnasol ddangos unrhyw gofnodion, ym mha le bynnag y cedwir hwy, i'w harolygu ar y tir neu yn yr adeiladau.

(3Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriad at gofnod yn cynnwys cofnod a gedwir drwy gyfrwng cyfrifiadur.

Arolygu Plant

4.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau'r rheoliad hwn, caiff person awdurdodedig, at ddibenion galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 87(3) o Ddeddf 1989, gyflawni arolygiad ar blant y darperir llety iddynt gan ysgol neu goleg perthnasol.

(2Caiff arolygiad gynnwys archwiliad corfforol o blentyn gan y person awdurdodedig, ar yr amod—

(a)bod y person awdurdodedig yn ymarferydd meddygol cofrestredig neu'n nyrs gofrestredig;

(b)bod gan y person awdurdodedig achos rhesymol dros gredu nad yw lles y plentyn o dan sylw yn cael ei ddiogelu'n ddigonol neu'n cael ei hybu'n ddigonol gan y person perthnasol(2); ac

(c)bod y plentyn yn cydsynio â'r archwiliad, neu nid yw'n alluog i roi cydsyniad.

(3Rhaid i archwiliad o dan baragraff (2) ddigwydd yn breifat.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff person awdurdodedig gynnal cyfweliad yn breifat, neu ymorol am sylwadau ysgrifenedig neu ar lafar gan unrhyw blentyn neu grŵp o blant sy'n cydsynio i gael eu cyfweld neu fynegi eu sylwadau, yn ôl y digwydd.

(5Ni chaiff person awdurdodedig gyfweld unrhyw blentyn unigol yn breifat oni bai—

(a)bod y plentyn o dan sylw wedi gofyn yn benodol am gael ei gyfweld ar ei ben ei hun ac yn breifat; neu

(b)bod y person awdurdodedig yn barnu ar sail resymol bod cyfweliad o'r fath yn angenrheidiol i alluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflawni ei ddyletswydd o dan adran 87(3) o Ddeddf 1989.

(6Ni chaiff unrhyw arolygiad ei gyflawni o dan y rheoliad hwn mewn perthynas â'r canlynol—

(a)unrhyw blentyn i aelod o staff ysgol neu goleg perthnasol; neu

(b)unrhyw blentyn arall sy'n byw gydag aelod o staff o'r fath fel aelod o'i aelwyd,

onid yw'r plentyn hefyd yn ddisgybl neu'n fyfyriwr yn yr ysgol neu'r coleg.

Arolygiad — cyffredinol

5.  Caiff person awdurdodedig wrth gyflawni unrhyw arolygiad o dan y Rheoliadau hyn—

(a)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu ar ei gyfer y cyfleusterau hynny a'r cymorth hwnnw ynghylch materion sydd o fewn rheolaeth y person hwnnw ac sy'n angenrheidiol i alluogi'r person awdurdodedig i arfer ei bwerau o dan y Rheoliadau hyn; a

(b)cymryd y cyfryw ffotograffau, mesuriadau a chofnodion y mae o'r farn eu bod yn angenrheidiol i alluogi arfer ei bwerau.

Ffi Blynyddol

6.—(1Diwygir Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd)(Cymru) 2002(3) yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn y paragraff o dan y pennawd “Arrangement of Regulations”, ychwaneger y llinell ganlynol ar y diwedd “10. Annual fee — boarding schools and further education colleges”.

(3Yn rheoliad 2—

(a)yn y diffiniad o “annual fee”, ar ôl y geiriau “section 16(3) of the Act, or” ychwaneger “section 87D(2) of, or” a dilëer yr ymadrodd “(as the case may be)” ;

(b)yn y diffiniad o “approved place”, ar ôl yr ymadrodd “for the use of a service user at night;” ychwaneger “or, in relation to a boarding school, residential special school or further education college, a bed provided for the use of a child accommodated at the school or college;”;

(c)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor yn y diffiniadau, mewnosoder y diffiniad canlynol—

“boarding school” means a school (not being a residential special school or a school which is a children’s home or a care home) providing accommodation for any child, and “school” has the meaning given to it in section 105(1) of the 1989 Act(4);;

(ch)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor yn y diffiniadau, mewnosoder y diffiniad canlynol—

“further education college” means a college as defined in section 87(10) of the 1989 Act which provides accommodation for any child;;

(d)yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor yn y diffiniadau, mewnosoder y diffiniad canlynol—

“residential special school” means—

(i)

a special school in accordance with sections 337 and 347(1) of the Education Act 1996(5); or

(ii)

an independent school not falling within (i) which has as its sole or main purpose the provision of places, with the consent of the National Assembly for Wales, for pupils with special educational needs or who are in public care,

and which provides accommodation for any child;.

(4Ar ôl rheoliad 9 (Ffi blynyddol — gofal dydd), mewnosoder y rheoliad canlynol—

Annual fee — boarding schools and colleges

10.(1) The annual fee which shall be paid by the relevant person(6) in respect of a boarding school, residential special school or further education college shall be the amount in column (2) of the table below added to the sum of the amounts in columns (3) and (4) multiplied in each case by the number of approved places specified in respect of that column.

Column 1Column 2Column 3Column 4
Type of school or collegeFlat rateRate payable for each approved place from the 4th to the 29th place inclusiveRate payable for the 30th and each subsequent approved place
Boarding school and further education college£250£15£7.50
Residential Special Schools£400£40£20

(2) In the case of a school or college which is providing accommodation for any child on 1st February 2003, the annual fee shall first be payable on 1st September 2003 and, in all other cases, on the date residential accommodation is first provided.

(3) The annual fee shall be payable every year on the anniversary of the date on which it was first payable..

Diddymu

7.  Diddymir Rheoliadau Arolygu Tir ac Adeiladau, Plant a Chofnodion (Ysgolion Annibynnol) 1991(7).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(8)

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

D. Elis-Thomas

17 Rhagfyr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau))

Mae'r rheoliadau hyn yn nodi pwerau ychwanegol y rhai sy'n arolygu darpariaeth les ysgolion a cholegau preswyl, o dan adran 87(6) o'r Ddeddf Plant.

Mae'r rheoliadau hefyd yn cyflwyno, drwy ddiwygiad i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd)(Cymru) 2002, ffi blynyddol sy'n daladwy gan ysgolion a cholegau.

(1)

1989 p.41. Mae'r pwerau'n arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mewn perthynas â Chymru trosglwyddwyd y swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cofnod ar gyfer Deddf 1989 yn Atodlen 1 iddo ac adran 120(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000.

(2)

Gweler adran 87(11) a (12) o Ddeddf 1989 i gael ystyr “relevant person” (“person perthnasol”).

(4)

Mae adran 105(1) o Ddeddf 1989 yn cyfeirio at y diffiniad o ysgol yn Neddf Addysg 1996 p.56.

(6)

Gweler adran 87(11) a (12) o Ddeddf 1989 i gael ystyr “relevant person” (“person perthnasol”).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources